Mae Sion Richards yn fyfyriwr ymchwil yn Adran Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth. Mae’n gweithio ar brosiect ar y cyd â Golwg360 i ddatblygu newyddion hyper-leol ar-lein trwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd yn blogio’n rheolaidd am ei ymchwil, a dyma’r cofnod cyntaf.
Does ddim cwestiwn fod hinsawdd cyfryngau yng Nghymru ar fin, ac angen newid. Mae sefydliadau mwyaf y byd darlledu Cymraeg, S4C ar BBC, yn dioddef o’r hinsawdd economaidd, bwyall ariannol Mr Hunt ai gymdogion yn y blaid Geidwadol … ac o safbwynt S4C, trafferthion mewnol, ac ar sgrin.
Mae’r cyfryngau wedi newid, ac yn dal i newid. Mae’r defnydd o buzzwords megis ‘Hyperlocal’ a Citizen / Guerilla Journalism yn bla o fewn y byd cyfryngau, ac yn enwedig newyddiaduriaeth.
“The idea is to get residents involved”, ( Moskowitz, 2010)
“Fill perceived gaps in coverage of an issue or region and to promote civic engagement.” (Metgar, Kurpius & Rowley,2011)
A dyma be sydd wedi digwydd ers blynyddoedd yng Ngwlad y Basg, defnyddio cyfryngau amgen i ddarlledu beth mae’r bobl isio ei glywed drwy gyfrwng traddodiadol y radio , print a’r we.
Radio llwyddiannus Gwlad y Basg
Radio Pirate Hala Bedi Irratia sydd yn dal sylw Txema Ramirez de la Piscina (2010) yn ei erthygl ‘Basque Country as Alternative Media Laboratory’.
Mae’r erthygl yn crynhoi dyfodiad radio pirate yr 1980au a’r symudiadau celfyddydol a diwylliannol yn y cyfnod, a sut mae symudiad tanddaearol diwylliannol yn gallu, ar brydiau sbarduno symudiad i fywyd cymunedol gyda dyfalbarhad ac ymroddiad chefnogwyr.
Mae Hala Bedi Irratia wedi bodoli ers dros 25 mlynedd ac yn darlledu am 24 awr y dydd – sydd ddim yn ddrwg am orsaf sydd mewn theori, ddim yn gyfreithlon. Gyda miloedd o wrandawyr y dydd, mae’r orsaf yn ddyledus i sawl gweithiwr di-dâl.
Modelau Cymreig
Yn wir mae fformat y papur bro yn creu’r un math o waith trwy ddefnydd weithwyr gwirfoddol ac yn ôl Gwilym Huws
“they are something more than just a newspaper… they are as integral a part of their localities as the school, the football club or the village hall.” (Huws, 1996; 93)
Ond efallai nad ydynt cweit wedi symud i’r unfed ganrif ar hugain, eto.
Erbyn heddiw mae sawl symudiad tanddaearol yng Nghymru yn darparu cynnwys aml gyfrwng ar lein, a thrwy hyn yn cadw’r deunydd yn lleol ac yn llenwi’r bylchau sydd yn cael eu methu gan sefydliadau darlledu mwy.
Mae’r wefan Amrwd yn ennill ei chlod gan enwau fel Huw Stephens o’r byd radio, gan ddarparu cerddoriaeth gan artistiaid ifanc am ddim trwy gyfrwng podlediadau rheolaidd o dan yr enw ‘Jazz Ffync a Gemau Fideo’ gan ddau o’r cyfranwyr.
Mae hefyd prosiectau megis Fideo Bob Dydd, umap Cymraeg , (y diweddar) Radio Amgen a Podlediadau Nyth i enwi rhai sy’n darparu cynnwys amgen ar-lein trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasu.
Mae ‘na hefyd ddatblygiad newydd ‘Radio’r Cymry’ fel mae’n cael ei alw ar hyn o bryd, a all efallai lenwi’r twll sydd wedi ei adael gan orsafoedd Cymraeg megis Radio Ceredigion a Champion?
Rôl Golwg360.com
Felly a oes le i Golwg 360, fel gwasanaeth newyddion cenedlaethol, gamu i’r blwch a chasglu’r holl wybodaeth / cynnwys Cymraeg i greu hafan seibr cenedlaethol Gymraeg sydd yn ddibynadwy ar ddeunydd crai ‘user generated content’?
Cyfeiriais ynghynt at Wlad y Basg, mae safle Goiena yn ei wneud yn effeithiol trwy gasglu sawl ffynhonnell allanol ai ddarparu i gynulleidfa fwy eang o fewn y wlad.
Yr hyn mae Goiena wedi ei wneud yn effeithiol ydi casglu cyfryngau lleol diwedd yr ugeinfed ganrif e.e. radio pentrefi, teledu lleol a chyfryngau print lleol – megis papurau bro – a’u haddasu i fformat cyfryngau lleol aml blatfform ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.
Wrth greu perthynas â chyfryngau lleol, mae Goiena wedi creu uned o gyfryngau lleol, sydd yn galluogi Goiena i gynnal swyddi a chadw’r elfen gymunedol yn gryf o fewn fframwaith y cwmni.
Trwy ddod a sawl newyddiadurwr o lefel guerrilla i’r proffesiynol maent yn galluogi’r cwmni i ddarparu arbenigedd mewn pynciau a meysydd penodol e.e. chwaraeon lleol, iechyd, addysg ac ati. Maent wedi caniatáu i newyddiadurwyr sticio at feysydd maent yn arbenigo ynddynt, ond gan ddarparu’r wybodaeth i’r cyhoedd ar lefel ehangach trwy gyfrwng gwefan/papur print Goiena.
Aildrefnu i oroesi
Fe wnaethon Goiena aildrefnu gan fod angen iddyn nhw feddwl am gynaliadwyedd.
Oedd yr unedau lleol yn rhy fach i gynnal y safon/math/ansawdd roedden nhw eisiau? Beth oedd y model economaidd gorau – aros yn fach efo costau bach neu fynd yn fwy efo costau mwy? Beth oedd arwyddocâd y lleol, ar ôl 25 mlynedd o gyfryngau lleol? Oedd pobl yn dal i fyw’r un fath? Ble oedd y lleol / yr ardal yn cychwyn ac yn gorffen ym meddyliau’r boblogaeth?
Eu penderfyniad nhw oedd bod rhaid mynd dipyn bach yn fwy – y dyffryn i gyd ac nid y pentrefi unigol – er mwyn cynnal (a) safon newyddion/cynnwys (b) gallu defnyddio amlgyfryngau (c) model economaidd cynaliadwy (ch) ardal ystyrlon i fywydau pobl.
Felly, a all darpariaeth cynnwys gymysg o hyper-lleol a newyddiaduriaeth broffesiynol, amlgyfrwng drwy’r iaith Gymraeg – gan ei weithredu drwy un wefan benodol – dangos i Mr Hunt fod yr iaith yn fyw, ac yn bwysig i drigolion pob dydd yng Nghymru?
Croeso i’r 21st century? Neu obaith seibr-ffantasi?
*Diolch yn fawr i Elin Haf, o adran Theatr,Ffilm a Theledu, Brifysgol Aberystwyth.