Owain Sion
 
Dyma argraffiadau Owain Sion, sy’n hyfforddi partïon cerdd dant, o Ŵyl Cerdd Dant Cwm Gwendraeth 2011 y penwythnos diwethaf…

Pan fo’r ŵyl yn y gogledd, lle mae gennych chi gymaint mwy o draddodiad Cerdd Dant yn y gogledd felly mae mwy yn cystadlu. Yn wahanol i’r Urdd a’r Genedlaethol, gan mai dim ond gŵyl diwrnod yw hi, efallai bod llai o bobol am fynd i ddod i’r ŵyl cerdd dant, os yw hi’n bell o’u hardal nhw achos mae bysiau’n ddrud i ddod am ddiwrnod.

D’wedwch bod gennych chi gôr o Wynedd eisio dod lawr, chi’n sôn am £1,000 am fws i ddod lawr. Mae yna gyfraniad i gostau teithio, ond mae’n ddrud iawn cyn cychwyn. Daeth Aelwyd JMJ i lawr eleni, ond roedden nhw’n mynd yn ôl yr un noson yn hytrach na thalu am aros rywle. Mae’n gostus.

Mi wnaethon ni gystadlu fel ysgol am ei bod hi mor lleol, ryw awr i ffwrdd. Rydyn ni erioed wedi gwneud yn yr ŵyl o’r blaen. Wnaethon ni ddim mynd â’r côr cerdd dant –  Merched y Ddinas – i Fangor y llynedd am ei bod rhy bell, ac yn rhy gostus.

Mae gennych chi’r unigolion sy’n dod yn flynyddol. Ond yr unig barti sy’n mynd i bob man drwy’r amser, yn cefnogi pob dim, ydi Parti’r Efail. Mi gawson nhw ail ar y parti gwerin gyda’r gân ‘Leisa Fach yn Dair Blwydd Oed’ a thrydydd ar y parti cerdd dant.

Ar y cyfan, mae pobol sy’n ymwneud â’r Gymdeithas Cerdd Dant a’r bobol sy’n cystadlu’n rheolaidd yn dod. Un ffaith ddiddorol eleni oedd bod Leah Owen yn beirniadu, ac fel arfer mai ganddi domen o bobol ifanc yn cystadlu. Mi oedd yna lai falla yn cystadlu, dyweder oedran uwchradd o dan 21 oed. Ond mae’n amrywio o flwyddyn o’r flwyddyn.

Roedd pobol Cwm Gwendraeth mor groesawgar, yn bobol arbennig iawn. Roedd yna gymaint o wirfoddolwyr yno a phobol â dim i wneud â cherdd dant ond yn gefnogol am ei bod hi’n eu hardal nhw.

Roedd y gynulleidfa yn Neuadd Pontyberem yn llawn trwy’r dydd. Mi gafodd yr ŵyl gefnogaeth lawn gan bobol yr ardal a phobol eraill. Roedd bys Seren Arian er enghraifft wedi dod lawr, felly mi oedd yna drip wedi’i drefnu i ddod lawr, a phobol yn aros yn yr Ivy Bush.

Mi aethon ni i mewn i’r neuadd yn ystod y dydd i wylio ambell gystadleuaeth ond doedd dim lle lawr grisiau o gwbl, ac roedd yn brin iawn yn y galeri. Pan aethon ni mewn ar ôl cystadlu gyda’r côr cerdd dant ar y diwedd, roedd lawr grisiau yn dal yn llawn hyd y diwedd. Ond mi oedd hi’n neuadd bentref rywsut.

Y flwyddyn nesaf mi fydd yr ŵyl ym Mro Conwy, yn Venue Cymru. Mae fanno’n dal mwy o bobol – efallai y bydd mwy o bobol yn mynd am y diwrnod o ardaloedd sy’n fwy traddodiadol o ran diwylliant gwerin, cerdd dant ac yn y blaen.

Beth oedd yn boblogaidd iawn eleni oedd y dawnsio gwern – achos bod gennych chi ddawnswyr Hafodwenog, dawnswyr Talog, dawnswyr Penrhyd a Nantgarw a llawer o ysgolion fel Ystalyfera yn cystadlu.

Mi o’n i’n hyfforddi Parti Ysgol Glantaf. Maen nhw’n griw awyddus iawn – pymtheg o flwyddyn 11 a rhai o’r chweched. Efallai nad ydyn nhw wedi canu cerdd dant o’r blaen ond maen nhw’n awyddus i gystadlu.

Dw i wedi gwneud yr un fath â’u brodyr a’u chwiorydd nhw, sy’n hŷn erbyn hyn ac wedi gadael. Mi o’n i’n hyfforddi Côr Merched y Ddinas, a ddaeth yn ail. Mi enillon ni â’r parti agored ro’n i’n canu ynddo, Criw Caerdydd.

  • Y côr buddugol yn y cystadleuaeth corau agored oedd Côr Merched Llangwm, Merched y Ddinas oedd yn ail, a Chôr Merched Canna yn drydydd. Aelwyd y Waun Ddyfal wnaeth gipio’r gystadleuaeth Côr Alaw Werin agored. Criw Caerdydd enillodd y gystadleuaeth Parti Cerdd Dant agored, a Pharti Llwchwr gafodd gyntaf yng nghystadleuaeth y Parti Alaw Werin agored.
  • Mae Owain Sion yn dysgu Cymraeg yn Ysgol Uwchradd Glantaf yng Nghaerdydd ers 11 mlynedd