Mae Golygydd Materion Cymreig y BBC wedi ymuno â’r llu o gwynion am rifyn o Question Time a ddarlledwyd o Aberystwyth neithiwr.

Yn ôl Vaughan Roderick cafodd Cymru ei hesgeuluso gan y rhaglen neithiwr, wrth iddyn nhw wrthod trafod materion Cymreig, ac annog panelwyr i ganolbwyntio ar faterion o safbwynt “Prydeinig”.

Mae Golwg360 bellach wedi derbyn ymateb gan y BBC i’r cwynion.

Yn ôl llefarydd y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig mae Question Time yn ceisio “adlewyrchu a thrafod cymysgedd o faterion cenedlaethol a rhyngwladol law yn llaw â materion sy’n perthyn i’r mannau o lle mae’r rhaglen yn cael ei recordio. Mae’n rhaid i’r testunau hynny fod o ddiddordeb i gynulleidfa eang y Deyrnas Unedig.

 “Neithiwr roedd y cwestiynnau yn adlewrychu’r materion yr oedd y gynulleidfa yn Aberystwyth eisiau eu trafod. Mae’r gynulleidfa yn y stiwdio yn aml yn darparu deimensiwn lleol i’r drafodaeth, fel yr oedden nhw neithiwr ar faterion fel diweithdra a ffermydd gwynt.”

Roedd Vaughan Roderick yn trydar ar wefan Twitter neithiwr – o gyfrif personol y newyddiadurwr, lle mae’n datgan mai ei farn ef, ac nid barn y BBC, yw sail y sylwadau.

“Digon yw digon. Falle fydda i mewn trwbwl am ddweud hyn, ond beth yw’r pwynt i #bbcqt ddod i Gymru os ydyn nhw’n mynd i anwybyddu Cymru?” holodd ar ei gyfrif twitter.

Mae’r un gŵyn wedi ei hadleisio gan nifer ar y wefan gymdeithasol, gyda sawl un yn gofyn ble’r oedd y drafodaeth ar faterion Cymreig, a ble’r oedd yr ystyriaeth i ddatganoli yn y rhaglen.

Mae Vaughan Roderick hefyd wedi beirniadu’r rhaglen am ofyn i Weinidog Tai San Steffan fod ar y panel, er bod y mater wedi ei ddatganoli i Gymru a bod gan Gymru ei Gweinidog Tai ei hun.

“Grant Shapps yw Gweinidog Tai Lloegr. #bbcqt yn atal gwleidydd Cymreig rhag siarad am Gymru,” meddai.

‘Nid cynulleidfa leol’

 Yn ystod y 12 awr diwethaf, mae nifer o Gymry ar wefan gymdeithasol Twitter wedi bod yn cwyno am y rhaglen, ac am y diffyg cynrychiolwyr Cymreig oedd yn y gynulleidfa.

Roedd cwynion tebyg y tro diwethaf i Question Time yn Aberystwyth, gyda Chymry’n gofyn beth oedd pwynt dod i Gymru os oedd y cynhyrchwyr ond yn bysio pobol i fewn o Loegr ar gyfer eistedd yn y gynulleidfa.

Yn ôl un o banelwyr y rhaglen doedd yna ddim llawer o bobol leol yn y gynulleidfa.

Mewn neges ar Twitter dywedodd yr Aelod Cynulliad Elin Jones fod “pobol wedi dod o bell heno i Aber. Hyd yn oed Dimbleby ffaelu credu fod cyn lleied o Gymru!”

Dywedodd Elin Jones wrth Golwg360 nad oedd llawer iawn o’r gynulleidfa yn gyfarwydd iddi hi, er mai hi yw’r Aelod Cynulliad lleol.

“Dw i’n gyfarwydd iawn â nifer o bobol yng Ngheredigion,” meddai Elin Jones, “ond do’n i ddim yn gyfarwydd â’r wynebe yn y gynulleidfa ’na neithiwr.”

Yn ôl Elin Jones, a fu’n siarad gyda chynhyrchwyr y rhaglen ar ôl ffilmio neithiwr, mae’n “batrwm arferol i gael pobol i mewn o bellter” ar gyfer y rhaglen.

Dywedodd yr Aelod Cynulliad wrth Golwg360 nad oedd fformat y rhaglen wedi ei synnu rhyw lawer.

 “Oedd hi’n rhaglen arferol i Question Time, p’un ai bod nhw’n ymweld â Chymru neu’r Alban,” meddai.

 “Ond fydden i wedi hoffi gweld mwy o bobol leol yn y gynulleidfa.”

Mae Golwg360 wedi gofyn am ymateb gan y BBC.