Mae tair gêm brawf Cymru yn Siapan a Seland Newydd, oedd i fod i gael eu cynnal ym mis Mehefin a mis Gorffennaf, wedi cael eu gohirio’n swyddogol ar ôl i Rygbi’r Byd gadarnhau y bydd rheoliadau Covid-19 yn atal holl gemau rhyngwladol yr haf rhag digwydd.
Mewn datganiad dywedodd Rygbi’r Byd:
“Mae cyfyngiadau teithio a cwarantin mewn nifer o wledydd, ynghyd â phryderon am ddigon o amser paratoi i chwaraewyr, yn golygu na all unrhyw fath o gystadleuaeth rygbi rhyngwladol traws-ffiniol gael ei chynnal ym mis Gorffennaf.”
Mae prif hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac, wedi mynegi siom ei garfan a chefnogwyr ar draws y tair gwlad, ond mae hefyd yn awyddus i ganolbwyntio ar gynlluniau i aildrefnu’r gemau.
“Roedden ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at chwarae yn Siapan a Seland Newydd yn yr haf felly mae hyn yn siomedig ond yn gwbl ddealladwy o dan yr amgylchiadau, ” meddai Pivac.
“Fe welais y croeso a gafodd y tîm yng Nghwpan y byd yn Siapan, a’r golygfeydd rhyfeddol yn y sesiwn hyfforddi agored, ac rwy’n siŵr y bydd ein perthynas wych gyda rygbi Siapan yn mynd o nerth i nerth yn y dyfodol.
“Ar nodyn personol, roeddwn i’n edrych ymlaen yn arw at ddychwelyd i Seland Newydd gyda Chymru. Mae’n anffodus y bydd yn rhaid inni aros ychydig yn hirach am y fraint honno.”
Dywedodd Undeb Rygbi Cymru ei bod yn gweithio i “gynllunio senario ‘dychwelyd i chwarae’, a hynny gyda’r holl randdeiliaid perthnasol yn y gêm fyd-eang” gan ychwanegu bod hyn yn cynnwys y posibilrwydd o aildrefnu gemau’r haf ar gyfer dyddiad ac amser diweddarach.
“Wrth gwrs, mae pob penderfyniad yn dibynnu’n llwyr ar drefniadau teithio a cwarantin, cyngor iechyd perthnasol ac ystyriaethau pwysig o ran lles chwaraewyr,” meddai datganiad