Bydd Prif Hyfforddwr y Scarlets Brad Mooar ag wyth chwaraewr – gan gynnwys y canolwr Hadleigh Parkes – yn gadael y Scarlets cyn bod y tîm yn dychwelyd i hyfforddi.

Ni fydd hyfforddwr y blaenwyr Ioan Cunningham yn dychwelyd i Barc y Scarlets chwaith gyda’r clwb yn symud ymlaen efo hyfforddwyr a chwaraewyr ar gyfer tymor 2020-21 ar ôl dychwelyd o’r toriad sydd wedi ei achosi gan y pandemig coronafeirws.

Mae disgwyl i Brad Mooar ymuno â thîm hyfforddi Seland Newydd o dan arweiniaeth Ian Foster, gyda Glenn Delaney yn cymryd ei le.

Bydd y chwaraewyr Hadleigh Parkes, Kieron Fonotia, Corey Baldwin, Jonathan Evans, Morgan Williams, Simon Gardiner, Rhys Fawcett a Tom James, sy’n ymddeol, hefyd yn gadael.

“Mewn cyfnod byr iawn mae Brad wedi sefydlu ei hun fel rhan o deulu a diwylliant y Scarlets ac mae ei boblogrwydd ymysg ein cefnogwyr yn adrodd cyfrolau,” meddai rheolwr cyffredinol y Scarlets, Jon Daniels.

Cyrhaeddodd canolwr Cymru, Hadleigh Parkes, Barc y Scarlets yn Hydref 2014 o Auckland.

Mae wedi chwarae 122 o weithiau mewn chwe thymor, gan sgorio 13 cais.