Bu farw un o ddychanwyr gorau Cymru, yr awdur Dafydd Huws, heddiw yn hosbis Holme Towers ym Mhenarth. Ef a greodd un o gymeriadau gorau ffuglen Gymraeg, sef Goronwy Jones, neu’r ‘Dyn Dŵad’.
Roedd yn hanu’n wreiddiol o Lanberis yng Ngwynedd, ond bu’n byw am flynyddoedd lawer yng Ngwaelod-y-garth ger Caerdydd. Bu’n athro Cymraeg yn Ysgol Uwchradd Illtyd Sant, Caerdydd, ar ddechrau ei yrfa, cyn gadael y byd addysg am y BBC i sgriptio Pobol y Cwm.
Dechreuodd ar ei yrfa lenyddol yn golofnydd radio a theledu Y Faner, o dan yr enw Charles Huws, rhwng 1971 a 1982.
Ymddangosodd Goronwy Jones gyntaf mewn colofn yn Y Dinesydd – colofn a greodd helynt ymhlith Cymry parchus Caerdydd. Ond gwnaeth ei farc ar Gymru gyfan yn y nofel Dyddiadur Dyn Dŵad (Cyhoeddiadau Mei, 1978), sy’n dilyn anturiaethau ‘Gron’ yn symud o’r gogledd i fyw i Gaerdydd. Trowyd y nofel yn ffilm yn hwyrach, gyda Llion Williams yn serennu yn y brif ran.
Aeth Gron ati i fwrw golwg dychanol ar y Gymru gyfoes yn ei ffordd ddihafal ei hun eto yn Un Peth Di Priodi, Peth Arall Di Byw (1990); ac yna drwy ei lygaid canol oed yn y tair nofel ysgafn, Walia Wigli (2004), Alias Myth a Jones (2009) a Nefar in Ewrop (2010), lle bu’n colbio’r ‘Cyn-lleiad’ a’i gweinidogion.
Cyhoeddodd ddetholiad o storïau a darllediadau yn y gyfrol Chwarter Call yn 2005 ac fe fu’n weithgar iawn gydag Undeb yr Ysgrifenwyr yng Nghymru.
Ef hefyd yw tad y Prifardd Catrin Dafydd.
Yn ei flynyddoedd olaf, roedd Dafydd Huws wedi bod yn barddoni dipyn, a rhoddodd rhai newydd yn enw Goronwy Jones, i’w cyhoeddi yng nghylchgrawn Golwg ym mis Ebrill 2017. Dywedodd ar y pryd: “Dw i’n teimlo weithiau fod Gron yn cael ei esgeuluso, a fy mod i ddim yn gwneud ei stwff o ragor. Felly mae o’n galw arnaf i bob hyn a hyn.
“Ei safbwynt o ydi pam ddylsa fo slogio’i gyts am oriau yn sgrifennu rhyddiaith sy’n cymryd oes pan mae beirdd yn medru ennill cadeiriau a choronau am dri chant o eiriau?” Dywedodd wrth Golwg mai Gron “yw’r ochr ddrwg ohonof i o bosib… a’r ochr mwya’ gonest hefyd.”
Dywedodd Lefi Gruffudd, Pennaeth Cyhoeddi Gwasg Y Lolfa:
“Dafydd Huws oedd un o’r awduron Cymraeg mwya talentog a gwreiddiol, a chafodd e ddim y gydnabyddiaeth oedd e’n ei haeddu yn fy marn i. Roedd ei lyfrau yn enw Goronwy Jones, y Dyn Dŵad yn wych, a dilyniant Dyddiadur Dyn Dŵad, Un Peth Di Priodi, Peth arall di Byw oedd un o’r nofelau doniolaf i’w sgwennu yn y Gymraeg erioed. Roedd yn feistr ar dynnu blewyn o drwyn y dosbarth canol Cymraeg a’r sefydliad dinesig – pleser oedd cydweithio gydag e wrth atgyfodi’r Dyn Dŵad ar gyfer y Gymru ddatganoledig, a chyhoeddi Walia Wigli ar ddechrau’r mileniwm. Bydd colled fawr ar ei ôl.”
Dywedodd yr Archdderwydd, Myrddin ap Dafydd:
“Newyddion trist ydi clywed am golli Dafydd Huws. Roedd yn arwr cynnar i’m cenhedlaeth i oherwydd ei sylwadau crafog a dychanol dan yr enw ‘Charles Huws’ yn ei golofn ar Radio a Theledu yn Y Faner ddegawdau yn ôl. Roedd ganddo ddawn i roi pin yn swigen pwysigion y sefydliadau Cymraeg a Chymreig. Yr un ddawn frathog sydd ar waith yn y gyfrol Dyddiadur Dyn Dŵad, a ymddangosodd fel cyfres o ysgrifau’n gwneud sbort am ben ein culni a’n rhagfarnau ym mhapur bro Caerdydd, Y Dinesydd (nes iddo gael ei wahardd o’i dudalennau).
“Sgwennwr proffesiynol Cymraeg oedd Dafydd, ac enillodd ei barch tuag at ei grefft ymhopeth yr oedd yn ymwneud ag o statws i’r alwedigaeth honno yng Nghymru. Ond nid dychan er mwyn dychan yr oedd o – roedd egwyddorion cymdeithasol, gwleidyddol a Chymreig y tu ôl i’w gynnyrch, ac anelu at Gymru well a Chymry callach oedd ei nod.”