Mae’r “diddanwr” Huw Bryant a’i wraig Gwennan wedi penderfynu hunanynysu yn Laos yn hytrach na theithio adre’.
Ar ôl priodi y llynedd penderfynodd y ddau roi’r gorau i’w swyddi i deithio o amgylch y byd.
Fis Ionawr teithiodd y ddau o Gaerdydd i Bangkok, cyn ymweld â rhai o ynysoedd Gwlad Thai a symud ymlaen i Laos. Eu bwriad gwreiddiol oedd treulio ychydig ddiwrnodau yn unig yn Laos cyn hedfan i Cambodia, ond oherwydd y coronafeirws bu rhaid i’r cwpl fynd i Lysgenhadaeth Prydain ddiwedd fis Mawrth er mwyn trafod eu opsiynau.
Eglurodd Huw Bryant wrth golwg360, “gathon ni gynnig i hedfan adre, ond oedden ni’n teimlo fod y risg yn ormod.”
“Ar ôl penderfynu fod hi’n saffach aros, ni di bod yn hunan ynysu yn Vientiane, prifddinas Laos ers bron i dair wythnos bellach.”
“Mae pawb yma i weld yn gwrando ac yn parchu’r cyfyngiadau sydd mewn lle gan lywodraeth Laos.
“Mae’n siomedig clywed nad yw’r un peth yn wir ym mhob rhan o Gymru a’r Deyrnas Unedig gyda phobol yn meddwl i fod nhw’n gwybod yn well.”
Dan yr amgylchiadau mae Llywodraeth Laos wedi caniatáu ymestyn fisas unrhyw ymwelwyr tramor sydd yn y wlad nes bydd yr argyfwng yn dod i ben.
Mae Huw a Gwennan Bryant yn wynebu cyfnod amhenodol yn Laos, ond bwriad y ddau yw parhau i deithio unwaith bydd y cyfyngiadau wedi llacio.
Mae 19 o achosion o’r coronafeirws wedi’u cadarnhau yn Laos hyd yn hyn, ond mae’r ffigwr yn debygol o fod dipyn yn uwch.
Cyfres newydd
Er fod cyfyngiadau ar waith yn Laos mae Huw a Gwennan Bryant wedi bod yn rhannu eu profiad unigryw o hunan ynysu yn Nwyrain Asia ar eu cyfri Instagram BackpackBrys.
“Ni’n ceisio mynd am dro bob dydd, ma’r bwyd yn ffein, a ni’n gwylio cyfresi ar lein non-stop… gan gynnwys cyfres newydd Mewn Cyfyng Cyngor, wrth gwrs!” meddai’r “diddanwr”, gan achub ar ei gyfle.
“Ble bynnag y’ch chi gobeithio bydd pobol yn mwynhau gwylio’r gyfres newydd. Gathon ni dipyn o sbort yn ffilmio’r gyfres. Fydd ’na gwpl o shocs, cymeriadau newydd, a bach mwy o linellau gan Samwel… falle.”
Mae’r ail gyfres o ‘Bry: Mewn Cyfyng Gyngor’ ar gael i’w wylio ar dudalennau Hansh ar Facebook ac ar sianel YouTube S4C Comedi nawr.