Mae elusen hosbis plant wedi lansio apêl argyfwng ar ôl gorfod cau ei siopau a chanslo digwyddiadau codi arian.
Mae Tŷ Hafan yn ofni y bydd yn colli £2 filiwn dros y flwyddyn nesaf oherwydd mesurau’r Llywodraeth i arafu lledaeniad y coronafeirws.
Dim ond 6% o’i gyllid mae’r elusen yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru ac mae arno angen £4.5 miliwn i weithredu.
“Mae hi’n amser anodd i bawb, ond mae’r argyfwng yma wedi taro Tŷ Hafan yn arbennig o ddrwg,” meddai’r cyfarwyddwr codi arian Julian Hall.
“Mae llawer o’n cefnogwyr brwd a oedd wedi trefnu digwyddiadau codi arian dros y misoedd nesaf wedi gorfod canslo neu ohirio eu gweithgareddau, sy’n golygu bod ein hincwm wedi stopio.
“Rydym hefyd wedi gorfod cau ein 25 o siopau ledled Cymru ac allwn ni ddim derbyn unrhyw nwyddau’n rhoddion bellach.”
Er hynny, dywedodd ei fod yn ffyddiog er gwaethaf popeth:
“Mae hi am fod yn flwyddyn anodd inni, ond mae’r gefnogaeth rydym wedi’i chael yn galonogol iawn.
“Rydym yn lwcus iawn o gael cymaint o gefnogwyr triw sy’n meddwl am bob mathau o weithgareddau codi arian y gallan nhw eu gwneud o’u cartrefi.”