Mae Arlywydd Venezuela wedi ymbil ar bob menyw i roi genedigaeth i chwe phlentyn fel bod y wlad yn “tyfu”.

Daeth galwad Nicolas Maduro wrth iddo sgwrsio â dynes mewn un o ddigwyddiadau ei lywodraeth.

“Bendith Duw arnat ti am roi chwech o fechgyn a merched i’r wlad.” meddai. “Rhoi genedigaeth. Chwe phlentyn i bob dynes – pob un. Gadewch i’r famwlad dyfu!”

Mae miliynau o bobol wedi dianc o’r wlad dros y blynyddoedd diwethaf wrth i broblemau economaidd ddwysáu.

Ac yn ôl y Cenhedloedd Unedig mae 9.3 miliwn o bobol – bron i draean poblogaeth Venezuela – yn methu a chael gafael ar y fitaminau, maetholion, a’r bwydydd sydd angen arnyn nhw.