Mae newyddiadurwraig sydd wedi cael ei beirniadu am gymharu’r weithred “ddi-bwrpas” o loncian yn yr unfan gyda dysgu Cymraeg wedi amddiffyn ei sylwadau.
Cafodd Zoe Williams ei beirniadu am erthygl yn y Guardian oedd yn trafod cynllun ffitrwydd yng Nghanada.
“Mae’r neidio yno, dw i wedi fy argyhoeddi fwy neu lai, i’ch cadw i gyfri eich camau, sy’n tynnu’ch sylw oddi ar ba mor galed a hollol ddi-bwrpas yw rhedeg yn yr unfan,” meddai.
“Yr holl egni yma, dim pellter wedi’i redeg: mae fel bwyta caws colfran neu ddysgu Cymraeg.”
Mae’r erthygl wedi cael ei beirniadu’n helaeth ar y cyfryngau cymdeithasol.
Amddiffyniad
“Dydy’r Gymraeg ddim yn cael ei siarad yn eang,” meddai’r newyddiadurwraig ar Twitter wrth amddiffyn yr erthygl.
“Dw i’n derbyn y pwynt fod rhai pobol yn dysgu ieithoedd oherwydd eu harddwch yn hytrach na’u cyrhaeddiad, ac felly’n deall ei bod yn bosib anghytuno â fi.
“Awn i mor bell â dweud fy mod i’n gwbl gyfforddus gyda phobol yn anghytuno â fi.
“Dw i’n dal i feddwl bod dysgu iaith nad yw’n cael ei siarad yn eang yn dipyn o ymdrech am wobr fach.
“Nid yw’n dilyn o reidrwydd fy mod i’n casáu Cymru, y Cymry na’r iaith Gymraeg na’i siaradwyr.
“Dw i ddim yn casáu pobol berfformiadol sy’n cael eu sarhau, er fy mod i wedi tawelu nifer.
“Dw i ddim hyd yn oed yn casáu caws colfran.”