Mae seiclwr wedi marw ar ôl cael ei daro gan gerbyd â charafán y tu ôl iddo yng Ngwynedd dros y Sul (Awst 11).
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw am tua 1.30yp yn dilyn adroddiad am wrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar ffordd yr A493 yn ardal Arthog, ger Dolgellau.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, fe wnaeth y seiclwr, 30, wrthdaro â Honda CRV a oedd yn tynnu carafán.
Cafodd y seiclwr ei gludo mewn hofrennydd i’r ysbyty yn Stoke, lle bu farw yn ddiweddarach.
Mae’r heddlu yn apelio ar unrhyw un a fu’n dyst i’r digwyddiad, neu a welodd y seiclwr ychydig ynghynt, i gysylltu â nhw ar unwaith.