Mae Aelod Seneddol y Blaid Werdd, Caroline Lucas, yn galw ar wleidyddion benywaidd i ddod at ei gilydd i geisio atal Brexit heb gytundeb.
Mae Caroline Lucas wedi ysgrifennu at 10 o wleidyddion benywaidd, gan gynnwys Liz Saville Roberts o Blaid Cymru, sy’n gwrthwynebu gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb i greu “cabinet brys.”
Dywed mai’r targed fyddai sicrhau pleidlais o ddiffyg hyder yn erbyn Boris Johnson gan ffurfio llywodraeth o undod cenedlaethol.
Ymhlith y menywod mae Caroline Lucas wedi gwahodd mae ysgrifennydd tramor cysgodol Llafur, Emily Thornberry, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Jo Swinson, a Phrif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon.
“Rydyn ni angen cabinet argyfwng – nid er mwyn ymladd rhyfel Brexit ond i weithio tuag at gymod. Ac rwy’n credu y dylai fod yn gabinet o fenywod,” meddai Caroline Lucas yn The Guardian.
“Pam menywod? Oherwydd fy mod i’n credu bod menywod wedi dangos eu bod nhw’n gallu dod â phersbectif gwahanol mewn argyfyngau, yn gallu estyn at y rhai maen nhw’n anghytuno â nhw a chydweithredu i ddod o hyd i atebion.”
“Rhaid i lywodraeth o undod cenedlaethol wneud yn union hynny – uno pleidiau. Ac rwy’n credu bod gan gabinet trawsbleidiol o ferched y potensial i wneud hynny.”
Yr Aelodau Seneddol eraill y mae Caroline Lucas yn cysylltu â nhw yw cyn-weinidog cabinet y Torïaid Justine Greening, yr Aelod Seneddol Llafur Yvette Cooper, Kirsty Blackman o’r SNP, Liz Saville Roberts o Blaid Cymru, Anna Soubry o Change UK a’r annibynwyr Heidi Allen a’r Arglwyddes Sylvia Hermon.