Mae angen “mwy o fuddsoddiad” gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn y campws yn Llanbedr Pont Steffan, yn ôl maer y dref.
Daw’r alwad yn sgil pryder yn lleol ynglŷn â dyfodol y campws sydd wedi gweld gostyngiad sylweddol yn nifer y staff, adrannau a myfyrwyr dros y blynyddoedd diwethaf.
“Rydyn ni [Cyngor Tref Llanbed] yn awyddus i weld buddsoddiad yn y campws,” meddai Rob Phillips, sydd hefyd yn gyn-fyfyriwr o’r brifysgol.
“Mae buddsoddiad wedi digwydd gyda’r Academi Sinoleg, ond rydyn ni’n awyddus i weld datblygiadau pellach… Mae datblygiadau wedi digwydd yng nghampws Abertawe, ac mae datblygiad wedi digwydd gyda’r Egin yng Nghaerfyrddin.
“Byddwn ni’n licio gweld pethau tebyg yn rhoi’r ffocws ar gampws Llanbed fel eu bod nhw [y brifysgol] yn hala neges glir eu bod nhw’n gweld dyfodol i’r campws fel man dysgu a man ymchwilio.”
Pryder yn lleol
Yr wythnos ddiwethaf, fe gyhoeddodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant eu bod nhw’n ystyried torri tua 100 o swyddi mewn ymgais i arbed £6.5m.
Mae golwg360 yn deall bod rhai aelodau o staff yng nghampws Llanbed eisoes wedi gorfod ailymgeisio am swyddi neu adleoli i gampysau eraill y brifysgol.
Yn ôl Rob Phillips, mae’r sefyllfa yn destun pryder i drigolion a busnesau lleol, wrth i ostyngiad yn nifer y staff a myfyrwyr effeithio ar economi’r dref.
“Mae yna nifer o fyfyrwyr nawr yn astudio o bell i gyrsiau ar y campws, ond wrth gwrs, dyw hwnna ddim yn mynd i helpu’r economi leol, achos mae myfyrwyr yn dod i mewn i siopa ac i gaffis ac ati yn bwysig iawn i’r dref,” meddai.
“Ac o ran y swyddi, mae pawb yn Llanbed yn nabod rhywun sy’n gweithio i’r brifysgol, ac mae yna lot o bryder wedi bod ynghylch y swyddi.”
Ymateb y brifysgol
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi gwadu bod dyfodol campws Llanbed yn y fantol, gan ddweud eu bod nhw’n awyddus i’w ddatblygu’n “ganolbwynt strategol sy’n chwarae rhan weithredol yn lles economaidd a chymdeithasol y rhanbarth.”
Maen nhw hefyd yn dweud bod y campws wedi derbyn buddsoddiad gwerth £5m yn ystod y ddwy flynedd diwethaf er mwyn “cefnogi gweithgarwch rhyngwladol”, a bod buddsoddiad arall o dros £1m eisoes ar gael ar gyfer astudiaethau ôl-radd.
“Mae’r Brifysgol wedi gwneud buddsoddiad sylweddol i ehangu’r campws trwy ddatblygu rhaglenni newydd arloesol ac ystod o bartneriaeth gyda sefydliadau rhyngwladol… a fydd nid yn unig yn dod â myfyrwyr i’r campws ond hefyd yn cynyddu gweithgarwch y dref,” meddai llefarydd.
“Yn ogystal, mae’n gweithio gyda grwpiau lleol i ddatblygu rhaglenni sy’n ymwneud ag iechyd, lles, ecoleg a chynaliadwyedd ymhlith eraill.
“Mae’r Brifysgol yn edrych ymlaen at ddatblygu rhaglenni pellach a mentrau cydweithredol sy’n atgyfnerthu etifeddiaeth hanesyddol Siarter Frenhinol 1828 Llanbedr Pont Steffan, er ei bod wedi’i haddasu ar gyfer anghenion dysgwyr, graddedigion a chyflogwyr yn y byd newidiol barhaus sydd ohoni.”