Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn galw am gymorth y cyhoedd i wireddu prosiect artistig uchelgeisiol drwy gynnig hen ddrysau pren iddyn nhw eu casglu.
Yr artist Marc Rees, sy’n gyfrifol am brosiect AGORA, sy’n ceisio hel 100 o ddrysau pren o bob lliw er mwyn gwireddu cynllun fyddai’n dathlu hanes tref Llanrwst, cartref yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
“Bydd y drysau yn cael eu defnyddio nid yn unig fel darn o waith celf gyhoeddus, ond hefyd er mwyn creu adeilad dros dro i gynnal pob math o weithgareddau a digwyddiadau yn ystod wythnos yr Eisteddfod,” meddai Marc Rees.
Dathlu hanes Llanrwst
Ei fwriad yw dathlu un o’r pethau fwyaf rhyfeddol yn hanes Llanrwst drwy gelf weledol.
“Yn 1947, cysylltodd Cyngor y Dref â’r Cenhedloedd Unedig i hawlio’u lle ar y Cyngor Diogelwch, gan ddatgan bod Llanrwst yn dalaith annibynnol o fewn Cymru. Fe fethodd y cais,” meddai Marc Rees.
“Ond mae’n ddarn mor bwysig o hanes y dref, ac rydyn ni eisiau anrhydeddu a chofio hyn drwy greu senedd dros dro ar y Maes – Pafiliwn y Bobol. “
“Rydyn ni’n gweithio gyda’r penseiri Jenny Hall a Tabitha Pope ar y prosiect, ac yn awyddus iawn i AGORA fod yn un o’r prif leoliadau ar y Maes eleni.”
Mae Marc Rees yn cael ei adnabod fel artist sy’n plethu celf, llefydd, a chymuned a hynny mewn ffyrdd anghyffredin yn aml.
Os oes gennych chi ddrws i’w gynnig i’r prosiect, dylid cysylltu’r e-bost iwan@ffiwsar.com <mailto:iwan@ffiwsar.com>
Dyma’i apêl i’r cyhoedd – <<https://vimeo.com/342121027/d00590f2c7>>