Mae Morgannwg yn gobeithio parhau’n ddi-guro yn ail adran y Bencampwriaeth wrth iddyn nhw deithio i Fryste i herio Swydd Gaerloyw heddiw (dydd Sul, Mehefin 23).

Mae’r bowliwr cyflym Michael Hogan yn dychwelyd ar ôl gorffwys yn ystod y gêm yn erbyn Middlesex yn Radlett yr wythnos ddiwethaf.

Mae’r sir Gymreig yn ail yn y tabl ar hyn o bryd, yn dilyn dwy fuddugoliaeth a phum gêm gyfartal yn eu saith gêm gyntaf.

Maen nhw dri safle uwchlaw eu gwrthwynebwyr, oedd wedi cael gêm gyfartal yn erbyn Swydd Gaerlŷr yn eu gêm ddiwethaf.

Gemau’r gorffennol

Morgannwg oedd yn fuddugol yn y gêm oddi cartref yn y Bencampwriaeth y tymor diwethaf, a hynny o chwe wiced, eu buddugoliaeth gyntaf oddi cartref yn erbyn Swydd Gaerloyw ers 2008.

Y tymor hwn, gorffennodd yr ornest ar Barc Spytty yng Nghasnewydd yn gyfartal ar ôl i’r Awstraliad Marnus Labuschagne daro 137 yn yr ail fatiad – mae e bellach ar frig sgorwyr rhediadau’r adran gyda 704.

Adeiladodd e bartneriaeth allweddol o 231 gyda Nick Selman, a sgoriodd 150, i osod y seiliau ar gyfer diwrnod olaf cyffrous.

Sgoriodd James Bracey 152 a Ryan Higgins 103 yn y batiad cyntaf i’r Saeson.

Yn 2016, Swydd Gaerloyw oedd yn fuddugol er i David Lloyd daro 99 yn y batiad cyntaf. Yn yr ail fatiad, roedden nhw’n 87 heb golli wiced, cyn llithro i 120 am wyth a cholli’r gêm o 125 o rediadau.

Y tymor blaenorol, sgoriodd Aneurin Donald 98 wrth fynd am ei ganred cyntaf i’r sir, cyn i Chris Dent sgorio 268, ei sgôr gorau erioed i’r Saeson.

Sgoriodd Colin Ingram a Chris Cooke ganred yr un i Forgannwg wrth i’r ornest orffen yn gyfartal ar y diwrnod olaf.

Cerrig milltir

Mae sawl un o fowlwyr cyflym Morgannwg yn agos at gerrig milltir i’r sir.

Mae angen un wiced ar Marchant de Lange i gyrraedd 300 o wicedi dosbarth cyntaf yn ei yrfa.

Mae Timm van der Gugten ddwy wiced yn brin o 150 o wicedi dosbarth cyntaf, ac mae angen chwe wiced ar Graham Wagg i gyrraedd 450.

Swydd Gaerloyw: C Dent (capten), M Hammond, J Bracey, G Roderick, J Taylor, G van Buuren, B Howell, R Higgins, M Taylor, J Shaw, D Payne

Morgannwg: N Selman, C Hemphrey, M Labuschagne, D Lloyd (capten), B Root, O Morgan, T Cullen, G Wagg, D Douthwaite, M de Lange, M Hogan

Sgorfwrdd