Mae Clwb Pêl-droed Bangor 1876 wedi cyhoeddi mai Mel Jones fydd eu rheolwr newydd, gyda Dylan Williams yn ei gynorthwyo.
Ac maen nhw hefyd wedi arwyddo Les Davies a Michael Johnston i’r garfan.
Mewn datganiad, mae’r clwb yn dweud iddyn nhw benodi Mel Jones “nid yn unig am ei allu fel hyfforddwr, ond hefyd am ei enw da am ddatblygu doniau ifainc”.
Mae Dylan Williams hefyd yn dod â phrofiad o ddatblygu chwaraewyr ifainc, ac yntau’n allweddol wrth sefydlu Academi Clwb Pêl-droed Llandudno. Bydd yn ennill ei gymhwyster Trwydded A wrth ei waith.
Chwaraewyr newydd
Wrth gyhoeddi bod Les Davies a Michael Johnston yn ymuno â’r garfan, dywed y clwb iddyn nhw orfod brwydro yn erbyn clybiau eraill i’w denu i’r clwb.
Rhyngddyn nhw, mae ganddyn nhw werth 600 o gemau o brofiad yn Uwch Gynghrair Cymru, ynghyd â medalau enillwyr pencampwriaeth Uwch Gynghrair Cymru a Chwpan Cymru.
Byddan nhw hefyd yn hyfforddi’r to iau yn ystod y tymor i ddod, wrth iddyn nhw baratoi am yrfa ar ôl ymddeol o chwarae.
“Mi ydw i wir wedi cyffroi ac yn edrych ymlaen at yr her sydd o ’mlaen i,” meddai Les Davies.
“Dw i wedi ymroi i roi clwb pêl-droed i’r cefnogwyr fedran nhw ymfalchïo ynddo fo, ac un fedran nhw a’r gymuned ei gefnogi.”
“Mae pobol Bangor yn agos at fy nghalon i, ac mae’n gyfle cyffrous dw i’n falch o fod ynghlwm wrtho fo,” meddai Michael Johnston.
“Dw i wir yn edrych ymlaen at rannu fy mhrofiad efo doniau ifainc lleol a gobeithio y bydd hyn yn eu rhoi nhw a Bangor 1876 mewn sefyllfa dda ar gyfer y dyfodol.”
Cit newydd
Teejac Sports fydd yn cyflenwi cit i’r clwb, gan adlewyrchu ymrwymiad y clwb i gydweithio â chwmnïau lleol.
Lliwiau gwreiddiol y clwb fydd yn cael eu defnyddio ar gyfer y cit, sef crysau glas ag amlinelliad coch, siorts gwyn a sanau glas.
Oddi cartref, bydd y chwaraewyr yn gwisgo crysau, siorts a sanau coch gydag amlinelliad glas.