“Annoeth” fyddai gwrthod â chydnabod Plaid Brexit yn grŵp gwleidyddol yn y Cynulliad, yn ôl sylwebydd gwleidyddol amlwg.

Rhaid derbyn “realiti” gwleidyddol, meddai’r Athro Richard Wyn Jones, o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd wrth i Lywydd y Cynulliad ystyried cais gan bedwar o gyn-aelodau plaid UKIP am gael eu cofrestru’n grŵp newydd yn enw Plaid Brexit.

“Mae tystiolaeth arolygon barn yn dangos bod trwch o bobol Cymru yn cefnogi’r blaid honno,” meddai wedyn.

“Hyd yn oed os nad dyma yw’r blaid yr etholwyd y pedwar yma i’w chynrychioli, mae’r ddadl bod UKIP 2016 yn sylfaenol wahanol i Blaid Brexit 2019 yn ddadl eithaf anodd ei chynnal!”

Llywydd yn ystyried

Ddydd Mercher y datgelodd pedwar Aelod Cynulliad – Mark Reckless, Caroline Jones, David Rowlands a Mandy Jones – eu bwriad i sefydlu’r grŵp yma.

Yn enw UKIP y cawson nhw’u hethol ac, yn ôl adroddiad gan y BBC, mae yna ACau yn ceisio’u rhwystro rhag cael yr hawl i greu grŵp newydd.

O fewn ychydig oriau heddiw, mae deiseb ar-lein gan y darlithydd a’r newyddiadurwr Ifan Morgan Jones wedi casglu 1,000 o lofnodion i alw am rwystro ACau rhag newid pleidiau  yn ystod oes Cynulliad.

“Dros y tair blynedd diwethaf mae llawer o Aelodau’r Cynulliad wedi dirmygu’r sefydliad drwy ddatgan eu bod yn annibynnol neu newid pleidiau,” meddai rhagarweiniad y ddeiseb.

“Mae un Aelod Cynulliad bellach wedi cynrychioli tair plaid wleidyddol wahanol yn ystod oes y Cynulliad … does dim mandad democrataidd ar gyfer hyn.”

 “Diwygio Bil Senedd ac Etholiadau”

Bellach mae Elin Jones, y Llywydd, yn ystyried eu cais i sefydlu’r grŵp, ac ym marn Richard Wyn Jones, mi ddylai cymeradwyo eu cais.

“Dw i ddim yn gwybod pa gyngor sy’n cael ei rhoi o’i blaen hi, ond dw i’n credu ei fod yn anodd iawn gwneud unrhyw beth ac eithrio cydnabod bodolaeth y grŵp yma,” meddai wrth golwg360.

“Dw i’n tueddu meddwl ei fod yn annoeth gwneud dim arall – beth bynnag mae pobol yn meddwl o Blaid Brexit. Maen nhw’n realiti gwleidyddol.”