Mae criwiau achub yn chwilio am ffermwr sydd ar goll yn ynys Creta yng ngwlad Groeg, lle mae tywydd mawr yn achosi difrod i gartrefi a ffyrdd, yn rhwystro awyrennau rhag hedfan, ac wedi dymchwel pont.

Does neb wedi gweld y ffermwr 61 oed wedi i lifogydd ysgubo ei gerbyd pic-yp ymaith ger porthladd Hania. Cyn hynny, fe gafodd dwy fenyw eu hachub o adeiladau gerllaw a oedd wedi’u difrodi gan dirlithriad.

Fe gafodd gwyntoedd o 70 cilomedr yr awr eu cofnodi ym maes awyr Daskalogiannis ar yr ynys, tra bod llifogydd wedi achosi trafferthion yn Keriti yng nghanol Creta.

Mae’r rhan fwya’ o deithiau cychod fferi rhwng yr ynys a’r tir mawr wedi’u canslo oherwydd y tywydd mawr.