Mae Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, wedi talu teyrnged i Paddy Ashdown, cyn-arweinydd y blaid Brydeinig, sydd wedi marw’n 77 oed.
Roedd wedi bod yn brwydro canser y bledren.
Roedd wedi treulio cyfnod yn y lluoedd arfog cyn mynd i fyd gwleidyddiaeth.
Fe fu’n arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol am 11 mlynedd, rhwng 1988 ac 1999.
‘Ysbrydoliaeth i nifer’
“Rydym yn eithriadol o drist o glywed am farwolaeth Paddy Ashdown,” meddai Jane Dodds.
“Roedd Paddy yn ysbrydoliaeth i nifer, ac yn gawr yng ngwleidyddiaeth Prydain.
“Roedd Paddy yn ffrind go iawn i’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, a byddwn yn gweld eisiau ei asbri a’i ymrwymiad i ryddfrydiaeth.
“Mae arnom gryn ddyled i Paddy am ei rôl wrth ailadeiladu ein plaid ac wrth sicrhau bod fflam rhyddfrydiaeth yn parhau i dywynnu’n llachar.
“Fe wnaeth Paddy gyfoethogi bywydau pawb oedd yn ei adnabod.
“Byddwn ni i gyd yn gweld ei eisiau.
“Mae ein meddyliau gyda’i deulu ar yr adeg anodd hon.”