Bu farw Paddy Ashdown, cyn-arweinydd plaid y Democratiaid Rhyddfrydol, Roedd yn 77 oed ac wedi bod yn brwydro canser.
Fe ddaeth cadarnhad gan lefarydd ar ran y blaid nos Sadwrn (Rhagfyr 22), fod gwleidydd yn diodde’ o ganser y bledren, er mai dim ond ers mis y daeth diagnosis.
Roedd wedi treulio cyfnod yn y lluoedd arfog cyn mynd i fyd gwleidyddiaeth. Fe fu Paddy Ashdown yn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol am 11 mlynedd, rhwng 1988 ac 1999.
“Mae’n ddiwrnod hynod o drist i’r blaid ac i bawb ym myd gwleidyddiaeth,” meddai arweinydd presennol y blaid, Vince Cable. “Roedd gan gynifer o bobol feddwl mawr a pharch tuag at Paddy.”
Mae cyn-arweinydd arall y blaid, Nick Clegg, a fu am gyfnod yn rhan o lywodraeth glymblaid gyda’r Torïaid yng nghyfnod David Cameron yn Brif Weinidog Prydain, wedi dweud mai Paddy Ashdown oedd y rheswm iddo fentro i fyd gwleidyddiaeth yn y lle cyntaf.