Mae postmon sydd newydd gyhoeddi ei ail lyfr am hanes pêl-droed yng Nghaernarfon yn barod yn paratoi am drydydd llyfr – y tro yma am hanes clwb Wrecsam.
Yn dilyn ei lyfr Local Heroes y llynedd am arwyr o Gaernarfon – yn ddynion a merched – aeth ati i chwarae yn broffesiynol a rhai i gynrychioli Cymru – mae Alex Philp wedi mynd ati i gyhoeddi ei ail lyfr, C’mon the Town.
Mae’r llyfr yn adrodd hanes 12 tymor nodedig yn hanes y Caneris – o’r cyfnod cyn yr Ail Rhyfel Byd hyd y presennol.
Rhediad y Caneris yng Nghwpan FA Lloegr yn nhymor 1986/87 dan reolaeth John King yw un tymor dan sylw. Roedd y tîm hwnnw yn cynnwys yr ymosodwr Austin Salmon, postmon arall – Huw Williams, gynt o Wrecsam; Gwyn Peris Jones gynt o Ddinas Bangor a Glyn Griffiths, hefyd o Wrecsam.
Fe lwyddodd Caernarfon i guro Stockport County o’r Bedwaredd Adran ac wedyn York City o’r Drydedd cyn colli i Barnsley.
Ar ôl gweld Caernarfon yn curo Aberystwyth o 4-0 nos Wener (Rhagfyr 14) ar yr Ofal, roedd yr awdur heddiw’n gobeithio mynd i wylio ei fab yn chwarae i ail dîm y Dre. Mae hefyd yn gefnogwr mawr o Wrecsam.
“Y rheswm pam wnes i sgwennu hwn oedd fod yna lot o hogia a merched y Dre rwan yn mynd i watsio’r timau – pobol ifanc yn eu 20au,” meddai wrth golwg360.
“Oeddach chi ddim yn eu gweld nhw ers talwm. O’n i’n meddwl y basa fo’n neis iddyn nhw gael hanes y clwb, a dyna pam wnes i fynd ati.
“Unarddeg tymor gora’ oedd o i fod, ond mi wnaeth yr hogia fynd i fyny’r tymor dwetha i’r Welsh Prem ac wnes i orfod cael hynny i fewn yn y llyfr yma!
“Y llyfr nesa’ dw i’n ffansïo ei wneud ydi ar hanes Wrecsam – sôn am eu rhediad yn yr European Cup Winners Cup a’r Welsh Cup a hwyrach am ble ma’r chwaraewyr yna rwan.”