Mae Dr Liam Andrews, Pabydd o Wyddel sy’n siarad Cymraeg yn Belffast, yn dweud iddo gael “cymaint o sioc” o deimlo ei fod yn ail-fyw cyfnod y Trafferthion yn ddiweddar.

Mae’n byw yn y ddinas gyda’i wraig, sy’n hanu o Abertawe, ac mae eu merched, Hunydd a Tegau bellach wedi ymgartrefu yng Nghymru. Fe fu’n rhannu ei atgofion ar gyfer y gyfres Y Wal ar S4C.

“Mae’n rhaid dweud, o’n i’n meddwl wrth wneud y cyfweliad, fel maen nhw’n dweud yn yr heddlu, bo fi’n cael y ‘third degree’,” meddai.

“Ro’n i’n sylweddoli wrth fynd ymlaen bo fi’n dechrau symud yn ôl i’r ffordd o feddwl pan oedd y Trafferthion wedi dechrau. Roedd e’n sioc enfawr i fi, ro’n i bron â thagu.

“Do’n i ddim yn teimlo’n gyfforddus am wythnos wedi hynny. Ro’n i’n teimlo’n ddrwg iawn.

“Ro’n i wedi cyfaddef sut o’n i’n teimlo ac roedd e’n sioc i fi ei fod e’n reddfol.”

Dywed Liam Andrews nad oedd e wedi gorfod meddwl am yr hanes tan yn ddiweddar, ond mae’n dal i deimlo rhai profiadau i’r byw.

“O’n i’n byw drwyddo fe i gyd, felly do’n i ddim yn gorfod meddwl amdano fe. Ond nawr, rwy’n gorfod.”

Pwysigrwydd y newyddion

Mae’n sylweddoli bellach pa mor allweddol bwysig oedd y newyddion ym mywydau ei gymuned er mwyn aros yn ddiogel yn wyneb cyrchoedd bomio cyson yn y ddinas.

“Roedd e’n dod yn arferiad i wrando ar y newyddion bob awr, bob hanner awr neu pryd bynnag oedd e’n bosibl,” meddai.

“Hynny yw, os oeddech chi’n mynd i’r gwaith yn y bore, byddech chi’n gwrando ar y newyddion o leia’ ddwywaith cyn mynd i sicrhau bod yr heolydd yn glir, fod dim problem ar y daith i’r gwaith.

“Wrth fod yn y gwaith, byddai rhywun yn rhywle yn yr adeilad yn cadw llygad barcud ar y newyddion yn ystod y dydd rhag ofn bod problemau ynglyn â mynd adre.

“Roedd hi’n arferol i fynd o’r tŷ i’r gwaith neu’r siop a gwrando neu wylio’r newyddion.

“Beth oedd pobol yn ein galw ni ar y pryd oedd ‘news junkies’. O’n i’n gorfod clywed y newyddion mor aml ag oedd yn bosibl i sicrhau fod heolyddd yn glir, fod dim problemau lle’r o’n ni’n mynd i fynd achos os o’t ti mewn car a bod bom yn rhywle, byddai’r heddlu neu’r milwyr yn rhwystro ceir rhag mynd.

“Syniad y bomwyr oedd, os oeddet ti’n gosod bomiau o gwmpas y dre’ i gyd, byddai’r traffig yn ffaelu mynd i unman.”

Bywyd ar ôl codi’r waliau

Mewn ymgais i gadw cymunedau’r ddinas ar wahân, cafodd waliau eu codi – ac roedd y cymunedau unigol yn dod i ddeall pa mor beryglus fyddai croesi i’r ochr draw.

“Roedd canol y ddinas wedi cael ffens enfawr o gwmpas y lle a gatiau a milwyr a phobol oedd wedi’u cyflogi i chwilio bagiau y bobl oedd yn dod trwy’r gatiau yma,” meddai.

“Wedyn pan oeddet ti’n cyrraedd y siop neu’r swyddfa, roedd pobol ddiogelwch wrth y drws yn checio bagiau neu beth bynnag oedd gyda ti. Roedd hwnna’n digwydd yn ddi-baid. Tu fewn i oriau gwaith rhwng 8-6, dyna oedd y drefn.”

Ar ôl dod adref o’r gwaith, byddai’r broses o wrando ar y newyddion yn dechrau eto.

“Fyddet ti ddim yn mynd i lefydd arbennig achos y peryglon. Fydden i bron byth yn mynd i ddwyrain dinas Belfast achos doedd dim rheswm.

“Oedd yr ardal lle’r oedd lot o Unoliaethwyr a theyrngarwyr ac eithafwyr o bob math o’r ochr unoliaethol. Roedd e fel dodi dy ben yng nghêg y llew, fyddet ti ddim yn gwneud ’ny.

“Roedd lot o reolau oeddet ti’n dilyn. Mae ’na ffilmiau am yr Indiaid Cochion yn gweld bod y buffalo yn mynd heibio – dyna’n ffordd ni o ddarllen y byd.”

 

Y Wal, S4C, Nos Sul, Rhagfyr 16, 8 o’r gloch