Mae Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Cenedlaethol newydd wedi ei benodi.

Ei enw yw Pedr ap Llwyd, ac mae wedi bod yn un o gyfarwyddwyr  ac yn Ddirprwy Brif Weithredwr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, cyn mynd am y brif swydd.

Fe gyhoeddodd ei benodiad ei hun yn ddwyieithog ar ei gyfrif Twitter brynhawn heddiw (dydd Iau, Rhagfyr 13), gan awgrymu ei fod yn edrych ymlaen at yr her.