Mae disgwyl i dros 40,000 o bobol fynychu Tafwyl dros y penwythnos.
Y llynedd daeth 38,000 i’r ŵyl sy’n rhad ac am ddim yng nghanol y brifddinas.
Bu digwyddiadau llai gydol yr wythnos, ond yfory bydd arlwy llawn o gerddoriaeth fyw, sgyrsiau o bob math, dosbarthiadau ioga a byw yn iach, gweithgareddau i blant, pabell i ddysgwyr a llwyth o stondinau yng nghaeau Castell Caerdydd.
Does dim pris mynediad i’r ŵyl, sy’n cael nawdd o £20,000 y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru, ac mae hynny’n un o’r rhesymau pam fod y digwyddiad wedi tyfu cymaint.
O achos ei phoblogrwydd, mae cwestiynau wedi codi a ydy Tafwyl bellach wedi mynd yn rhy fawr i’w chynnal ar safle’r Castell.
Fe gafodd Tafwyl ei sefydlu yn 2006, ac mae wedi tyfu yn anhygoel ers yr un cyntaf yn y maes parcio yng nghefn Tafarn y Mochyn Du.
“Dangos bod y Gymraeg yn fyw”
Ond mae un fydd yn cymryd rhan yn yr ŵyl, Beti George, sydd wedi byw yng Nghaerdydd am y rhan fwyaf o’i bywyd, yn dweud bod angen cadw’r ŵyl yng nghanol y ddinas.
“Mae’n beth arbennig, dw i’n licio’r lleoliad achos bod e’n ganolog… a ydy e erbyn hyn yn rhy fach? Dw i ddim yn gwybod, fe gewn ni weld.
“Fi’n credu bod hwn yn lleoliad perffaith, achos dw i’n credu dylai fe fod rhywle yng nghanol y ddinas er mwyn i bobol cael clywed.
“… Mae’n rhoi syniad i bobol bod y Gymraeg yn fyw ac yn iach. Fi’n credu bod pobol Caerdydd erbyn hyn yn derbyn bod y Gymraeg yn iaith sydd yn cael ei siarad.
“Roeddwn i yn y coleg yma, roedd hynny yn bron i drigain o flynyddoedd yn ôl ac wrth gwrs, doeddwn i byth yn clywed Cymraeg ar y stryd, ond erbyn hyn mae i’w chlywed.
“Felly dw i’n credu bod y brifddinas yn ymwybodol o’r Gymraeg erbyn hyn ond a ydyn nhw cweit yn deall pa mor fyw ydy hi a bod pobol ifanc yn ei siarad ac yn ei chanu hi a bod gyda ni hefyd ddiwylliant cerddorol byw ac iach iawn ac o safon uchel.
“Felly dw i’n credu bod rhaid ei gael e yn y canol.”
Dros benwythnos Tafwyl, bydd Beti George yn holi Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Elfed Roberts, wrth iddo ymddeol.
A bydd hithau hefyd yn cael ei holi gan Jon Gower, a’i wraig, Sarah, am ei rhaglen radio, Beti a’i Phobol, yn ogystal â chymryd rhan mewn trafodaeth ar wobr Llyfr y Flwyddyn, yr oedd hi’n feirniad arni eleni.
Mae amserlen lawn Tafwyl yma.