Mae mab y cyn-weinidog Cabinet, Carl Sargeant, wedi galw am ddechrau’r ymchwiliad i’w farwolaeth.
Yn ôl Jack Sargeant, sydd bellach yn Aelod Cynulliad yn sedd ei dad, mae ar y teulu angen atebion ac mae’r ymchwiliad yn rhan o hynny.
Mae hi’n fwy na saith mis ers i’r gwleidydd 49 wneud amdano’i hun ar ôl iddo gael y sac o gabinet Llywodraeth Cymru yn dilyn honiadau o ymddygiad anaddas at fenywod.
‘Pwysig dechrau’r ymchwiliad’
“Mae yna hanner blwyddyn wedi mynd,” meddai. “Mae’n bwysig dechrau’r ymchwiliad yna, a bod proses yn ei lle i sicrhau na fydd hyn yn digwydd fyth eto.”
Y Prif Weinidog, Carwyn Jones, oedd wedi sefydlu’r ymchwiliad dan y bargyfreithiwr Paul Bowen QC ar ôl beirniadaeth o’r ffordd yr oedd ef wedi trin Carl Sargeant ac wedi cyhoeddi’r newyddion am ei ddiswyddo.
Yn ôl y teulu, chafodd y cyn-Ysgrifennydd Cymunedau ddim gwybod be oedd yr honiadau’n ei erbyn ac maen nhw’n parhau i wadu’r cyhuddiadau.
Ymateb y Llywodraeth
Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth bapur newydd y Guardian fod y gwaith paratoi at yr ymchwiliad yn mynd yn ei flaen a’u bod yn agos at gytuno sut i’w gynnal.