Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau na fydd cyhuddiadau yn cael eu dwyn yn dilyn marwolaeth merch dwy flwydd oed yng Ngheredigion.
Cafodd Kiara Moore ei chanfod mewn car Mini a oedd wedi llithro i’r afon yn Aberteifi, a bu farw wedi hynny ar ôl cael ei chludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd.
Pryder ei theulu yn wreiddiol oedd bod y car wedi cael ei ddwyn, ond daeth i’r amlwg yn sgil ymchwiliadau bod y cerbyd dan y dŵr, ger y llithrfa lle’r oedd wedi’i barcio.
“Mae ymchwiliad yr heddlu i farwolaeth Kiara Moore wedi dod i ben,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu. “Ni fydd cyhuddiadau’n cael eu dwyn mewn cysylltiad â’r achos trasig hyn.”
Bydd cwest yn cael ei agor i farwolaeth y ferch, ond does dim dyddiad wedi’i bennu eto.