Mae pryderon na fydd seren tîm rygbi Cymru, Jonathan Davies ar gael am weddill yr hydref ar ôl anafu ei goes ar ddiwedd y gêm yn erbyn Awstralia yn Stadiwm Principality neithiwr.

Wrth i’r chwiban olaf chwythu i ddod â’r ornest i ben, ac Awstralia’n ennill o 29-21, roedd y canolwr ar wastad ei gefn ar ôl cael anaf i’w ffêr.

Daw’r anaf bythefnos yn unig cyn ymweliad Seland Newydd â Chaerdydd, ac fe ddywedodd y prif hyfforddwr Warren Gatland nad yw’r anaf yn “edrych yn wych”.

Fe fydd Cymru’n asesu’r anaf yn ystod y dydd heddiw.

13 colled o’r bron yn erbyn Awstralia

Hon oedd trydedd colled ar ddeg Cymru o’r bron yn erbyn Awstralia.

Seliodd yr ymwelwyr y fuddugoliaeth gyda cheisiau yn yr hanner cyntaf gan Tatafu Polota-Nau, Adam Coleman a’r capten Michael Hooper. Sgoriodd Kurtley Beale gais o bell ar ôl 61 munud wrth iddo rwygo’r bêl o afael Cymru.

Roedd tri throsiad i Bernard Foley a chic gosb i Reece Hodge, wrth i Leigh Halfpenny gicio tair cic gosb a throsiad i Gymru.

Roedd rhai elfennau addawol o safbwynt Cymru, gan gynnwys ceisiau i Steff Evans a Hallam Amos, ond fe fydd rhaid iddyn nhw wella’n amddiffynnol er mwyn osgoi crasfa gan y Crysau Duon.

Meddylfryd

Mae prif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wedi gwadu bod meddylfryd y Cymru wedi eu rhwystro rhag ennill y gêm – gan ymestyn y rhediad o golledion yn erbyn Awstralia a ddechreuodd yn 2008.

Fe fyddan nhw’n mynd benben unwaith eto’r flwyddyn nesaf yng Nghwpan y Byd.

Dywedodd Warren Gatland: “Dw i ddim yn meddwl fod unrhyw beth wedi dangos heddiw fod yna rwystr yn feddyliol o safbwynt chwarae yn erbyn Awstralia.

“Ni oedd penseiri ein siom ein hunain heddiw oherwydd doedden ni ddim yn ddigon cywir yn yr hanner cyntaf.

“O ystyried eu perygl nhw fel tîm ymosodol, fe wnaethon ni hi’n hawdd iddyn nhw. Roedden ni’n fwy cywir wrth i’r gêm fynd rhagddi.

“Does neb yn meddwl o gwbl am rwystr yn feddyliol wrth herio Awstralia.”