Colli 2-0 a wnaeth Cymru yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Ffrainc yn Paris neithiwr.
Yn ôl y rheolwr Chris Coleman, mae’r tîm yn dal i deimlo’r siom o fethu mynd trwodd i rowndiau terfynol Cwpan y Byd.
“Roedd hon yn sicr am fod yn gêm anodd,” meddai. “Mae colli yng nghystadlaethau Cwpan y Byd wedi bod yn ergyd drom.”
Ar ôl goliau gan Antoine Griezman ac Olivier Giroud, dangosodd Ffrainc eu bod yn barod ar gyfer her Cwpan y Byd yn Rwsia’r haf nesaf.
“Dyma’r tîm gorau inni chwarae yn ei erbyn erioed, tîm o’r radd flaenaf – ond roedden ni angen hynny,” meddai Chris Coleman.
“Fe wnaethon nhw sgorio ar ôl dau rediad da gennym ni, ond yn gyffredinol cafodd y chwaraewyr ifanc brofiad gwerthfawr.”
Rhoddodd Gymru gyfleoedd am y tro cyntaf i Ethan Ampadu o Chelsea a David Brooks o Sheffield United, a daeth Ben Woodburn o Lerpwl hefyd oddi ar y fainc.
“Fe fyddwn ni’n rhoi cymaint o brofiad ag y gallwn i’r bechgyn ifanc hyn,” meddai Chris Coleman.
“Mae pêl-droed rhyngwladol yn gwbl wahanol i bêl-droed clybiau ac os na chewch chi brofiad ohono fyddwch chi ddim yn ei ddeall.
“Rydyn ni’n teimlo braidd yn isel gan ein bod ni wedi colli, ond mae angen cymryd pethau eraill i ystyriaeth.”