Bydd stadiwm Clwb Pêl-droed Dinas Bangor dan ei sang yn hwyrach y prynhawn yma ar gyfer yr ornest rhwng tîm Cymru dan 21 a Bosnia-Hertsegofina, yn y gêm ragbrofol ar gyfer Pencampwriaeth Ewropeaidd UEFA.

Mae’r tocynnau ar gyfer cefnogwyr Cymru i gyd wedi eu gwerthu ar gyfer gêm bwysig, gyda Chymru a Bosnia-Hertsegofina yn gydradd yn eu grŵp ar hyn o bryd.

Caiff y Cymry eu hyfforddi gan y cyn-amddiffynnwr rhyngwladol, Rob Page, ac maen nhw eisoes wedi ennill tair gêm oddi cartref yn ystod yr ymgyrch – yn erbyn Y Swistir, Portiwgal a Liechtenstein.

Nid yw tîm dan 21 Cymru erioed wedi medru cyrraedd rowndiau terfynol Pencampwriaeth Ewropeaidd UEFA.

Yn ogystal â’r gêm heno, bydd y crysau cochion hefyd yn wynebu Rwmania, sydd ar frig y grŵp, eto ym Mangor, nos Fawrth.

Bydd y gêm yn dechrau am chwech o’r gloch heno ac yn cael ei dangos yn fyw ar S4C.