Y newyddiadurwr a’r darlithydd o Brifysgol Bangor, Dr Llion Iwan, sy’n ymateb i flogiau diweddar Rhys Llwyd a Dylan Jones-Evans.
Eleni mae 473 o ieithoedd y byd ar fin marw. Dyna sawl diwylliant, hanes a thraddodiad unigryw ar fin diflannu am byth. Er bod 6809 iaith yn y byd ar hyn o bryd, mae dros hanner y rheiny yn cael eu siarad gan lai na 6000 o bobol.
Cyfranna sawl ffactor at farwolaeth iaith, ond y rhesymau blaenllaw yw diffyg defnydd o’r famiaith mewn gweinyddiaeth a’r gyfraith, ymfudo, cyflafan, addysg trwy gyfrwng iaith estron a rhieni yn gwthio eu plant i siarad iaith arall, gan eu bod yn credu fod honno’n bwysicach ac o fwy o werth.
Pam dw i’n taflu’r ffeithiau hyn atoch? Gan fy mod yn credu ein bod ynghanol brwydr ar hyn o bryd am ddyfodol defnydd o’r Gymraeg mewn addysg uwch. Bu’n rhaid brwydro am flynyddoedd i’w gael, yn awr rydym mewn perygl mawr o’i golli. Byddai’r oblygiadau hyn i’n hiaith yn angheuol.
Os na fydd Cymry yn derbyn eu haddysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn arfer defnyddio termau a geirfa Gymraeg ymhob maes, yna troi at y Saesneg y byddant wrth wneud gwaith swyddogol ac ati. Ymhen amser gallai’r Gymraeg gael ei gwthio i fod yn ddim ond iaith yr ydym yn cymdeithasu ynddi, a beth fyddai’r cam nesaf.
Prifysgol Bangor
Rwyf am fwrw golwg ar y sefyllfa ym Mhrifysgol Bangor. Ond mae’r sefyllfa drwy Gymru yn ddifrifol, ac os collwn y frwydr ym Mangor, bydd yn cynyddu’r pwysau yn y prifysgolion eraill ac yn rhoi hyder i’r criw bychan sydd yn gwrthod cydnabod y Gymraeg.
Dwi’n fach o weld fod y myfyrwyr ym Mangor wedi dechrau protestio a lleisio eu hofnau am ddyfodol dysgu cyfrwng Cymraeg. Ond dyma frwydr y mae’n rhaid ei hymladd ar sawl lefel, mewn pwyllgorau, cyfarfodydd, erthyglau a lobïo. Dyfodol addysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg sydd yn y fantol.
Nid astudiaeth wyddonol mo hyn, dim ond sylwadau ac argraffiadau personol. Ond gwelaf nifer o Gymry Cymraeg yn dewis astudio yn y brifysgol trwy gyfrwng y Saesneg, gan eu bod yn credu nad yw eu Cymraeg yn ‘…ddigon da.’ Mae’r diffyg hyder yn y rhain tuag at eu hiaith yn anhygoel.
Gwelwyd cwymp hefyd yn y nifer sydd yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae sawl rheswm dilys dros hynny. Ond y canlyniad yw bod y cyrsiau sy’n cael eu cynnig yn crebachu. O gynnig tair gradd trwy gyfrwng y Gymraeg, bellach un a hanner sydd gennym yn ei hysgol ni, gan fod llai o staff yn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae sawl ysgol dan fygythiad yn y brifysgol gan gyfrifwyr oeraidd sydd yn poeni am ddim ond ffigyrau moel ar bapur gwyn, heb ystyried am eiliad y cyd-destun a’r cefndir diwylliannol.
Hysbysebu am swydd Is-ganghellor Prifysgol Bangor heb i’r Gymraeg fod yn hanfodol iddi – dyna a gafodd y sylw diweddar bron i gyd yn y cyfryngau, ac yn haeddiannol. Ond mae’r sefyllfa yn llawer mwy difrifol na hynny.
Tros gyfnod o amser beth ddigwyddodd ym Mangor oedd bod y rheiny sydd yn rhedeg y Brifysgol o ddydd i ddydd, y dirprwyon a phenaethiaid coleg ac uwch weinyddwyr i gyd bron iawn ddim yn Gymry. Ac nid dim ond hynny, ond aed ati yn dawel bach i gyfyngu’r Gymraeg a defnyddio rheolau trwy ailddiffinio swyddi fel nad yw’r Gymraeg bellach yn hanfodol i rai ohonyn nhw. Cadw o fewn rheolau, ond torri ysbryd polisi iaith y Brifysgol yn rhacs.
Ni chafodd swydd y dirprwy materion Cymraeg ei llenwi er enghraifft, (digwyddodd hyn hefyd ar lefelau eraill yn y Brifysgol), ac er bod yr Is-ganghellor wedi ymgymryd gyda’r dyletswyddau, ond gan ei fod ar fin gadael, fe ddylid hysbysebu’r swydd hon a’i phenodi ar fyrder.
Byddem yn naïf i ddisgwyl fod pawb sydd yn cael eu penodi yma yn dysgu’r Gymraeg. Ond mynnwn eu bod yn parchu’r Gymraeg a ddim ond yn gwneud beth sydd angen ei wneud yn arwynebol tra yn ddistaw bach cau’r drws ar y Gymraeg. Y rheiny sydd fwyaf tebygol o ddweud, ‘dwi ddim yn hiliol ond mae cas gen i…’
Ystyriwch o ddifrif am funud, fod angen dadlau a mynnu bod erthyglau academaidd yn y Gymraeg, gan eu bod yn cael eu cyhoeddi mewn cyfnodolion Cymraeg, yn haeddu eu cydnabod yn gofnodion teilwng i’w cyflwyno ar gyfer yr arolwg o safonau academaidd, yr REF. Onid yw safon academaidd yn safon academaidd, waeth bynnag yr iaith?
Problem fawr rhai o’r gweinyddwyr ac academyddion sydd yn ein prifysgolion ydi eu bod wedi hen arfer edrych ar y byd trwy lygaid Prydain fawr, ac nad yw ieithoedd eraill angen eu cydnabod na’u hystyried.
Mae gobaith
Ond mae gobaith. Rwy’n argyhoeddedig mai’r unig beth sydd gan y rheiny sydd yn gwrthwynebu’r Gymraeg ymhob maes, ac yn gwneud eu gorau i’w dilorni a’i gwthio i’r ymylon, yw culni gweledigaeth a hunanoldeb gyrfaol personol. Dyna eu gwendid.
Mae gennym ni’r Cymry ar y llaw arall ddiwylliant, iaith a gwlad yn ein huno. Aros yma er mwyn eu gyrfaoedd y mae’r rheiny sy’n ein gwrthwynebu, ac er mor nerthol a grymus y maent yn credu y maent, ymddeol a gadael fydd tynged pob un, tra bydd Cymry eraill yn cymryd ein lle ni.
Ganed fy mab, Eban Dafydd, ym mis Rhagfyr 2009. Gwnaeth ei enedigaeth imi ystyried yn ddwys beth fydd sefyllfa’r Gymraeg pan fydd yn hŷn.
Os na chymrwn safiad yn awr, ofnaf mai nifer fechan iawn o gyrsiau cyfrwng Cymraeg a fydd ar gael iddo fo a’i ffrindiau ymhen ugain mlynedd. A byddwn gam yn nes i ymuno gyda’r rhestr hynny o ieithoedd sydd mewn perygl o farw.