Yn ei araith o’r Maen Llog yn yr Eisteddfod Genedlaethol, rhybuddiodd yr Archdderwydd T James Jones fod dyfodol y cyfryngau yng Nghymru yn y fantol.
Rydyn ni’n hen gyfarwydd â’r trafferthion sy’n wynebu’r cyfryngau Cymraeg – S4C yn arbennig. Ond mae’r drwg wedi lledu i’r cyfryngau Saesneg hefyd. Fel y datgelodd Golwg 360 yr wythnos diwethaf, mae yna bellach ansicrwydd am ddyfodol y Western Mail. Anghofiwch am bapur dyddiol Cymraeg, os nad ydyn ni hyd yn oed yn gallu cynnal papur dyddiol Saesneg.
Mae gan y cyfryngau Cymraeg a Saesneg yr un broblem, sef fod yr arian hysbysebu oedd yn arfer eu cynnal nhw yn llawer prinnach yn sgil yr argyfwng ariannol. Fel y dywedodd T James Jones, y we yw’r dyfodol ond oherwydd bod pobol yn disgwyl gwasanaeth am ddim dyw e ddim yn hunangynhaliol. Ar yr un pryd, mae’n denu darllenwyr a gwylwyr oddi wrth y wasg brint a’r teledu, sy’n gallu talu ei ffordd.
Yr eironi yw bod y cyfryngau Cymraeg mewn safle cryfach na’r wasg Saesneg yng Nghymru. Does neb yn disgwyl i’r cyfryngau Cymraeg allu talu ei ffordd felly maen nhw’n cael eu cynnal gan arian cyhoeddus. Dyw’r un ‘rhwyd diogelwch’ ddim yno i’r Western Mail ag eraill. Er gwaetha’r toriadau i S4C does neb yn rhagweld y gallai ddiflannu yn llwyr o fewn dwy flynedd.
Ond wrth chwifio’r fwyell gydag un llaw mae’r Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt, yn rhoi â’r llaw arall. Mae’n benderfynol o sefydlu sianeli teledu lleol ar draws Prydain, a bydd £40 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn y fenter. Mae 11 ardal ym mhob cwr o Gymru wedi cael cynnig gwneud cais am drwydded, o Gaerdydd yn y de i Fangor yn y gogledd.
Ond rhaid gofyn ai dyma’r ffordd orau i fuddsoddi’r arian. Mae angen gwasanaethau lleol ar bobol, ond nid ar draul gweld y darlun ehangach. Os ydi gwasanaethau sy’n darparu newyddion ar gyfer Cymru gyfan yn mynd i’r gwellt oherwydd diffyg nawdd, pam buddsoddi mewn gwasanaeth sy’n ymdrin â Bangor, neu Aberdaugleddau, yn unig?
Mae yna gwestiynau i’w gofyn hefyd ynglŷn â safon y gwasanaethau teledu lleol yma a faint o bobol fydd yn eu gwylio nhw.
Dim ond arian er mwyn sefydlu’r sianeli rhain fydd y Llywodraeth yn ei gynnig ac wedyn bydd rhaid iddyn nhw eu cynnal eu hunain. Mae hynny’n awgrymu na fydd ansawdd y rhaglenni yn arbennig o uchel, oherwydd y refeniw cyfyngedig fydd yn dod i mewn gan fusnesau lleol (‘mae’r rhaglen yma wedi ei noddi gan siop y gornel Waunfawr’, ayyb…).
Ac ar beth fyddwn nhw’n ei adrodd? Mae teledu yn dibynnu ar y gweledol a’r cyffrous, nid y cyfarfodydd cyngor di-ben draw sy’n llenwi ein papurau lleol.
Mae diffyg newyddion diddorol i adrodd arno yn broblem yng Nghymru. Dyna yn rhannol pam fod cymaint o bobol yn troi at y Sun neu Sky News am eu newyddion, yn hytrach na’r Western Mail (cylchrediad 30,000) neu’r Daily Post (40,000).
Heb newyddion diddorol does neb yn darllen a does dim cymaint o incwm yn dod i mewn i dyfu’r gwasanaethau. Fe fyddai sianelu teledu lleol yn wynebu’r un broblem, ond y ganwaith gwaeth.
Fe allai sianel deledu leol weithio yng Nghaerdydd, neu ddinas fawr arall, lle mae yna lawer o bobol yn byw ar ben ei gilydd, a phobol Rhiwbeina yn pryderu am beth sy’n digwydd ym Mhenarth. Ond dyw beth sy’n digwydd ym Mangor ddim am gadw pobol Caernarfon yn gaeth i’w sgriniau teledu yn hir.