Anders Breivik
Mae’r byd yn parhau i geisio gwneud synnwyr o’r ymosodiad laddodd 93 o bobol yn Norwy ddydd Gwener. Er gwaetha’r ‘maniffesto’ maith sydd wedi ei gyhoeddi ar-lein gan y dyn sydd wedi cyfaddef i’r llofruddiaethau, yr un ateb sydd ag erioed… dyn sydd ychydig yn wallgo, braidd yn unig, sydd wedi treulio gormod o amser yn stiwio yn ei gasineb ei hun.
Ymateb cyntaf y cyfryngau oedd mai terfysgwyr Mwslimaidd eithafol oedd ar fai am yr ymosodiad. Rhaid cyfaddef mai dyna oedd fy ymateb i hefyd. Dw i ddim yn credu fod hynny’n dangos ryw fath o gwrth-fwslemiaeth sefydliadol o fewn y cyfryngau, dim ond y ffaith mai terfysgwyr Mwslimaidd eithafol sydd wedi bod yn gyfrifol am y rhan fwyaf o ymosodiad o’r fath ers bron i 10 mlynedd.
Doedd y wyneb blond, golygus ddaeth i’r amlwg ychydig oriau yn ddiweddarach ddim yn ffitio’r naratif hwnnw. Roedd rhaid mynd yn ôl ymhellach, i’r tro diwethaf yr oedd y ‘gelyn’ yn bobol dal, blond, â llygaid glas.
Yn anffodus wrth weld yr ymateb i’r hyn ddigwyddodd mai’n amlwg fod yr un parodrwydd yno i gydymdeimlo â dibenion yr asgell-dde eithafol heddiw ag oedd yn nydd y Nazis gwreiddiol. Mae’r cyfryngau prif-lif wedi bod yn ofalus iawn i gondemnio’r ymosodiadau yn llwyr, ond wrth ddarllen rhai o’r sylwadau ar-lein daw i’r amlwg fod rhai yn credu bod gan Anders Breivik ryw fath o bwynt.
Ond y gwir ydi bod Anders Breivik a’r Mwslemiaid eithafol y mae yn credu sy’n meddiannu Ewrop yn ddwy ochor i’r un geiniog. Mae ganddyn nhw’r un credoau, bron a bod – casineb at ferched, hoywon, cred fod angen gorfodi eu diwylliant nhw ar bawb arall. Yr unig wahaniaeth yw’r esgus y tu ôl i’w gweithredoedd – ‘Cristnogaeth’ adain-dde eithafol yn un achos, ‘Mwslimiaeth’ adain-dde eithafol yn yr achos arall.
Piti mai’r mwyafrif cymedrol sy’n cael eu dal yn y canol.