Nick Bourne, arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, sy’n dadlau o blaid rhoi tic ym mlwch ei blaid yn yr Etholiad Cyffredinol ar 6 Mai…
Fe fydd 2010 yn flwyddyn bwysig i Gymru. Os bydd Llywodraeth Geidwadol yn cael ei hethol ar 6 Mai, bydd modd dechrau’n syth ar y gwaith o sicrhau fod cymdeithas ac economi Cymru yn mynd yn ôl i’r cyfeiriad cywir.
Byddai’r Ceidwadwyr yn hoffi gweld economi, cymdeithas a gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi cael eu hadeiladu ar ymdrech, gallu a dyfeisgarwch y bobol, wedi ei gefnogi ond heb ei lesteirio gan lywodraeth.
Rydan ni am fynd i’r afael â’r sialensiau craidd y mae llywodraethau yn y gorffennol wedi methu ymdrin â nhw. Rydyn ni’n gwybod mai pobol Cymru – nid llywodraeth na gwariant mawr – fydd yn gwneud y gwahaniaeth.
Mae 13 mlynedd o Lywodraethau wedi eu harwain gan Lafur yn Llundain a Bae Caerdydd wedi methu. Cymru sydd â’r raddfa ddiweithdra uchaf mewn unrhyw genedl yn y DU. Mae 96,000 o’n plant ni yn byw mewn tlodi difrifol. Mae ein graddfa cychwyn busnes ymhlith yr isaf yn y DU.
Hyd yn oed cyn y dirwasgiad roedd Cymru yn dioddef o ddiffyg mewn gweithgarwch economaidd a degau o filoedd o bobol ifanc nad oedd ym myd addysg, mewn gwaith nac mewn hyfforddiant. Mae dal i fod angen gwelliannau mawr ar ein gwasanaeth iechyd a’n system addysg er mwyn dal i fyny efo safonau’r DU. Ac mae troseddau sy’n deillio o alcohol yn bla ar ein strydoedd.
Mae Plaid Cymru yn parhau i ymroi i Gymru annibynnol er gwaethaf byd sy’n gynyddol gyd gysylltiedig, â’r twf yng ngrym India a China. Mae gan Lafur obsesiwn am aros mewn grym ac wedi troi at greu celwyddau drwy ddweud fod y Ceidwadwyr am gael gwared â phas bws am ddim a thaliadau ynni’r gaeaf. Mae’r Ceidwadwyr wedi ymroi i dorri gwastraff mewn swyddfeydd llywodraeth, fel nad oes angen i’n trethi gynyddu. Mae Llafur hefyd wedi dod o hyd i wastraff ond am roi trethi i fyny nawr, hyd yn oed cyn taclo’r gwastraff.
Mae David Cameron wedi ei gwneud hi’n glir fod fformiwla Barnett yn agosáu at ddiwedd ei oes ac mae’r Ceidwadwyr yn cefnogi refferendwm am bwerau’r Cynulliad. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wastad wedi cefnogi symudiadau yn y Cynulliad i symud yr iaith Gymraeg ymlaen, ac i amddiffyn swyddi Cymreig a chymunedau. Ond dyw’r Ceidwadwyr ddim yn ofni bod yn uchelgeisiol am ddyfodol Cymru. Rydan ni eisiau undeb o genhedloedd mawr. Dyna pam rydan ni eisiau mwy na datganoli gwleidyddol yn unig. Mae pobol yn creu swyddi a chyfoeth i Gymru ac yn gwybod sut fath o wasanaethau cyhoeddus y maen nhw angen:
- Ble mae’r wladwriaeth wedi methu a’i gwneud hi’n hawdd cynnal busnes a chyflogi pobol yng Nghymru, bydd y Ceidwadwyr yn esmwytho baich treth Llafur ar fusnesau, gan alluogi i bobol yrru’r adferiad economaidd.
- Ble mae’r wladwriaeth wedi methu darparu ar gyfer pobol ifanc sydd ag ond ychydig o gymwysterau a sgiliau bywyd, mae’r Ceidwadwyr yn cynnig paru hyd at 5,000 o bobol ifanc â masnachwyr unigol yng Nghymru i ennill bywoliaeth a dysgu sgiliau ar gyfer cyflogaeth neu hyfforddiant.
- Ble mae’r wladwriaeth wedi methu a mynd i’r afael â throseddu – roedd bron 10,000 yn fwy o droseddau treisgar yng Nghymru yn 2009 o’i gymharu â degawd cyn hynny – bydd y Ceidwadwyr yn lleihau byrdwn gwaith papur yr heddlu a chynorthwyo’r heddlu i daclo gwerthwyr alcohol anghyfrifol.
Y Ceidwadwyr yw’r unig blaid sy’n gwybod taw, yn y diwedd, pobol fydd yn gwneud i newid ddigwydd. Mae pobol yn dechrau teuluoedd a busnesau. Mae pobol yn gweithio’n galed yn ein Gwasanaeth Iechyd ac yn ein hysgolion. Pobol sy’n gwneud y dewisiadau sy’n effeithio’r amgylchedd. Ac rydyn ni angen pobol i ddechrau’r newid yna ar 6 Mai.