Mae’r Heddlu yn ymchwilio ar ôl i ddyn ym Mhenygroes ddioddef anafiadau difrifol i’w ben.
Mae’r heddlu’n credu fod y dyn 29 mlwydd oed wedi dioddef yr ymosodiad mewn maes parcio cyhoeddus gyferbyn garej Povey ym Mhenygroes ar y nos Sul, 18 Ebrill.
Ni chafodd yr Heddlu eu hysbysu o’r ymosodiad yn syth, ond ar ôl i gyflwr y dyn waethygu nos Lun fe roddwyd gwybod i’r heddlu am y digwyddiad.
Mae’r dyn dal yn yr ysbyty ac mewn cyflwr gwael ond sefydlog.
Dylai unrhyw un a welodd yr ymosodiad gysylltu â CID Bangor ar 101; 0845 6071001 (llinell Cymraeg), neu Taclo’r Taclau ar 0800 555111.
Fel arall, mae modd gyrru neges destun i 66767 neu yrru e-bost northwalespolice@north-wales.police.uk.