Yn dilyn cyhoeddiad arolwg barn ITV YouGov ddoe, mae Plaid Cymru’n tampan. Dim syndod pan mae ei cefnogaeth wedi gostwng o beth wmbreth, mae’n debyg oherwydd llwyddiant Nick Clegg yn nadl y Prif Weinidogion erbyn hyn. Mae werth nodi canlyniad yr arolwg, oedd rhwng 16-19 Ebrill, yn syth ar ol y ddadl ar 15 Ebrill, a’u cymharu â canlyniadau etholiad 2005:

Plaid                 Arolwg      Etholiad 2005

Llafur                    33%                      43%

Dem Rhydd       29%                       18%

Ceidwadwyr      23%                      21%

Plaid Cymru       9%                        13%

Eraill                      6%                          5%

Mae Plaid Cymru felly’n gwthio’n galed, gyda’i chwaer blaid yn yr Alban, yr SNP, i berswadio Sky a’r BBC i’w cynnwys nhw ar y dadleuon nesaf. Mae amser braidd yn brin i’w cynnwys nhw yn y ddadl ar Sky nos Iau yma. Mae dadl y BBC wythnos yn hwyrach a nhw sydd wedi bod dan y lach fwyaf gan y ddwy blaid genedlaetholgar.

Does dim amynedd gan Lafur gyda galwadau Plaid Cymru, fel mae’r datganiad isod gan lefarydd ar ran Llafur yn dangos:

These are Prime Ministerial debates. Elfyn Llwyd is not going to be Prime Minister because Plaid Cymru is not a British party and therefore cannot win a British General Election. They are irrelevant.

Roedd Ieuan Wyn Jones a Carwyn Jones yn eistedd ochr yn ochr ym mriffing y wasg y Llywodraeth bore ma. Tybed oedd Ieuan yn sylweddoli bod Carwyn a’i blaid yn ystyried eu partner clymbleidiol yn “amherthnasol”?