Mae Mark Williams wedi sicrhau ei le yn rownd 16 olaf Pencampwriaeth y Byd yn y Crucible ar ôl curo Marcus Campbell 10-5.

Roedd y Cymro wedi ei chael hi’n anodd yn y sesiwn cyntaf o’r dydd, ond llwyddod i fynd ar y blaen 5-4. Fe unionodd Campbell y sgôr pan enillodd y degfed ffrâm o’r gêm.

Gyda Williams yn wynebu mynd allan o’r gystadleuaeth yn gynnar, fe ddechreuodd chwarae’n well ac ennill pum ffrâm yn olynol i sicrhau’r fuddugoliaeth yn Sheffield.

Fe allai Williams wynebu Ronnie O’Sullivan yn y rownd nesaf, pe bai’r Sais yn fuddugol yn erbyn Liang Wenbo.

Ymateb Mark Williams

“Roedd y gêm yn agosach na beth mae’r sgôr yn ei awgrymu. Roedd e’ mwy fel gêm 10-8 neu 10-9,” meddai Williams.

“Mae’n edrych yn debyg y byddai’n chwarae yn erbyn Ronnie O’Sullivan yn y rownd nesaf, ond fe fydd angen i mi berfformio’n llawer gwell,” meddai.

“Rydw i wedi chwarae’n gyson yn ystod y tymor, ond mae’n anodd chwarae’n dda trwy’r amser.

“Dw i’n gobeithio fy mod i wedi cael dy mherfformiad gwael allan o’r ffordd am weddill y gystadleuaeth!” ychwanegodd Mark Williams.