Ifan Morgan Jones sy’n gofyn beth fydd tactegau’r Ceidwadwyr dros yr wythnosau nesaf…

Mae’r Ceidwadwyr yn gwneud smonach o bethau, ac os nad ydi Nick Clegg yn gwneud yn ddigon gwael yn yr ail ddadl nos Fawrth i chwalu ei gefnogaeth yn llwyr, mae eu gobeithion o sicrhau mwyafrif yn San Steffan yn diflannu’n gyflym.

Roedd angen beth bynnag 10% o symudiad yn y  bleidlais i gyfeiriad y Ceidwadwyr iddyn nhw fwynhau mwyafrif yn y lle cyntaf, ac roedd yna gwestiynau a fydde nhw’n llwyddo yn hynny o beth hyd yn oed gydag amhoblogrwydd Gordon Brown.

Ond erbyn hyn senedd grog, gyda chlymblaid rhwng Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol,  sy’n edrych yn fwyaf tebygol. Fe allai hynny arwain at gynrychiolaeth gyfrannol yn San Steffan, un o brif bolisïau’r Dems Rhydd, a allai rwystro’r  Ceidwadwyr rhag ffurfio llywodraeth byth eto.

Mae’r Ceidwadwyr wedi penderfynu peidio â rhedeg ymgyrch negyddol hyd yma ac mae hynny i’w glodfori. Penderfynodd David Cameron ganolbwyntio ar y cadarnhaol unwaith eto ddechrau’r wythnos hon – ond fe allai hynny fynd yn ei erbyn o.

O’r dechrau fe allai’r Ceidwadwyr fod wedi canolbwyntio ar Gordon Brown a phardduo ei enw. Ond fe benderfynodd David Cameron geisio gwerthu ei syniad o am ddyfodol Prydain, y ‘Gymdeithas Fawr’, yn lle.

Y broblem yw bod Nick Clegg wedi dwyn apêl David Cameron oddi arno. Mae’n edrych yn ifancach (er mai dim ond blwyddyn sydd rhyngddyn nhw), mae o’n posh (ond ddim cweit mor posh), mae’n addo newid a gobaith newydd. Nid newid llywodraeth yn unig, ond newid cyfan gwbl o’r sustem wleidyddol llwgr ddwy blaid sydd wedi teyrnasu dros y blynyddoedd diwethaf. Dyw David Cameron ddim yn gwybod lle i droi.

Os nad yw’r polau piniwn yn gwella, ac os nad yw Nick Clegg yn llithro ar groen banana mawr melyn (onid dyna ydi symbol y blaid?), bydd angen newid cyfeiriad ar y Ceidwadwyr. Fe allai David Cameron bwysleisio ei neges gadarnhaol a gobeithio bydd yr haul yn tywynnu drwy’r cymylau llwch. Neu fe allai benderfynu mai dyma’r amser i newid cyfeiriad a mynd am ymgyrch negyddol: ‘Pleidleisiwch am Nick Clegg ac fe gewch chi Gordon Brown am bum mlynedd arall’.

Mae’n sefyll ar groesffordd ar hyn o bryd a bydd angen penderfyniad yn fuan. Os ydi Nick Clegg yn mynd a hi yn yr ail ddadl, fe allai fod yn rhy hwyr.