Angharad Clwyd, rhiant o Landysul ac un o swyddogion Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, sy’n rhoi ei barn ar y cynllun i adeiladu ysgol syth-drwodd 3-19 oed yn y fro…
Roedd yna deimlad cryf o ‘deja vu’ yn y cyfarfod ‘llawn i’r ymylon’ nos Fercher diwethaf yn Llandysul. Cyfarfod arall oedd hwn i drafod y posibiliad o greu un ysgol fawr 3-19 oed yn yr ardal, gan gau Ysgol Uwchradd Dyffryn Teifi a phump ysgol gynradd.
Lleisiwyd yr un cwestiynau a phryderon a fynegwyd gan rieni a llywodraethwyr yn y cyfarfodydd blaenorol, ac unwaith eto fe aeth y Cyfarwyddwr Addysg ac ymgynghorwyr yr astudiaeth dichonolrwydd ati i osgoi ateb y cwestiynau.
Yn hytrach, traethasant yn hirfaith ynghylch a beth yw’r problemau sydd yn ein hwynebu a cheisio gwyro sylw’r gynulleidfa wrth sôn am yr holl gyfleusterau anhygoel a fyddai ar gael yn yr adeilad newydd.
Enghraifft o’u hamharodrwydd i ateb cwestiynau oedd pan y gofynnwyd iddynt yn syml a oeddent wedi gwneud asesiad ariannol manwl ar gyfer creu ffederasiwn rhwng yr ysgolion? Ni ddaeth ateb.
Mae’n amser i’r swyddogion addysg dderbyn bellach nad yw cymunedau ardal Llandysul yn dymuno gweld ysgol enfawr â dros fil o ddisgyblion yn cael ei chodi mewn cae y tu allan i ffiniau’r dref, ac nad ydynt yn dymuno gweld prif ffocws ein cymunedau yn cael eu chwalu, yn cynnwys cymuned tref Llandysul ei hun.
Mae’r Cyngor wrth gwrs i’w ganmol am gynnwys y cymunedau yn rhan o’r trafodaethau, ond os nad oes bwriad gan y Cyngor i wrando ar farn y cymunedau yn dilyn y cyfarfodydd, mae’r cyfarfodydd yn ddiwerth.
Roedd y mwyafrif yn y cyfarfod, gan gynnwys fi, yn cytuno fod mawr angen adeilad newydd ar gyfer Ysgol Dyffryn Teifi. Taflwyd bygythiadau gan y panel y gall yr ysgol gau neu golli ei chweched dosbarth os na fyddai’r cynllun yma’n cael ei wireddu. Ond y gwir yw nad yw’r swyddogion addysg wedi ymchwilio yn ddigonol i opsiynau eraill posibl o ddenu grantiau ar gyfer yr ysgol.
Un syniad gwerth chweil a ddaeth o’r astudiaeth dichonolrwydd oedd cael Canolfan Gydol Oes ar y campws newydd yn ogystal â Chanolfan Iaith Uwchradd a Chynradd ar gyfer hwyrddyfodiad.
Ond pam na ellir ceisio am gyllideb ar gyfer campws yn cynnwys Ysgol Uwchradd, y canolfannau iaith, a chanolfan gydol oes gyda’i gilydd, a pheidio â chynnwys adran gynradd? Does dim synnwyr mewn llusgo’r plant o’u hysgolion a’u cymunedau er mwyn cyllido’r anghenfil hwn.
Wrth gwrs, bydd angen edrych o’r newydd ar sefyllfa addysg gynradd yr ardal. Dywedwyd dro ar ôl tro yn y cyfarfod nad yw’r status quo yn bosibl – ond nid felly’r sefyllfa ym mhob ysgol mewn gwirionedd. Mae gan ysgol gynradd Llandysul, ysgol sydd â dros 180 o blant, a dim ond ychydig iawn o leoedd gwag, adnoddau gwych ac adeilad addas eisoes.
O ran y 4 ysgol gynradd arall, mae yna nifer o opsiynau eraill posibl, ond mae angen dechrau meddwl yn greadigol, gyda’r swyddogion yn gweithio ar y cyd gyda’r cymunedau yn hytrach na meddwl yn fiwrocrataidd a mynnu canoli pob dim.
Mae yna 6 wythnos o ymgynghori ar ganlyniad yr astudiaeth yn awr a buaswn yn annog pawb i ddanfon eu sylwadau at y Cyfarwyddwr Addysg Eifion Evans. Dros y pythefnos nesaf bydd y swyddogion addysg a’r ymgynghorwyr yn cyfarfod â’r chwech corff llywodraethol sydd yn cael eu heffeithio. Mae corff llywodraethol Ysgol Dyffryn Teifi eisoes wedi pleidleisio i gefnogi’r cynllun. Petai cyrff llywodraethol y pump ysgol gynradd yn pleidleisio yn erbyn y cynllun fe fydd yn ddiddorol gweld a fydd y swyddogion yn gwrando neu a fyddant yn parhau i wthio’u cynllun ar ein cymunedau.