Bydd acrobats yn canu opera yn hen lyfrgell dinas Abertawe’r mis yma, wrth i’r Theatr Genedlaethol Saesneg barhau i fynd â byd y ddrama at y bobol.

Shelf Life yw cynhyrchiad cydweithredol cynta’ cwmni newydd y Theatr Genedlaethol Saesneg ei hiaith.

Mae’n cydweithio gyda chwmni theatr bach o Abertawe, Theatr Volcano, a chwmni Opera Cenedlaethol Cymru.

Y gobaith yw creu perfformiad theatrig o ddawns ac acrobateg, canu a llefaru mewn hen lyfrgell a gafodd ei gau tair blynedd nôl.

“Roedd Abertawe yn arfer bod yn hen ddinas hardd,” meddai’r cynhyrchydd, Paul Davies.

“Yn anffodus oherwydd y Blitz does dim llawer o hen adeiladau ar ôl. Un a wnaeth oroesi oedd y llyfrgell. Mae hi wedi bod yn rhan ym mywyd pobol Abertawe a chymunedau Cwm Tawe. Mae’r elfen ‘waw’ yn rhan o’r darn.”

Bwriad y sioe yw ymdrin â’n perthynas ni â llenyddiaeth heddiw. Nid sioe ‘syrcas’ mohoni, yn ôl y cynhyrchydd, ond sioe sy’n sôn am bynciau difrifol am ein byd ni yn y 21g.

“Mae’r pwnc – sef darllen – yn agos at fy nghalon, ac yn agos at galon pawb,” meddai Paul Davies.

“Mae gennym ni i gyd atgofion o lyfrau, llyfr yr y’n ni wedi’u hoffi. Mae gennym ni gariad tuag at lenyddiaeth, gydag ‘l’ fach.”

Mae cwmni Opera Cenedlaethol Cymru wedi trefnu dau gôr o 60 o drigolion lleol i ganu yn ystod y perfformiad.

Mi fyddan nhw’n canu darn Baróc i ail-greu agoriad y llyfrgell pan gafodd ei hagor gan Gladstone yn 1880.

“Dyw hi ddim yn sioe sydd i fod i gynrychioli dinas Abertawe,” meddai Paul Davies,” ond annog pobol. Gan ei fod e’n ofod rhyfedd, r’yn ni’n creu chwedl am y pethau sy’n digwydd mewn llefydd fel hyn.”

* Shelf Life, National Theatre Wales, yr Hen Lyfrgell, Heol Alexandra, Abertawe, tan Sul, Ebrill 25

Gweddill y stori yn Golwg, Ebrill 15