Hanes ei mam yn brwydro i gyrraedd adref mewn storm eira sydd wrth wraidd nofel newydd Gwen Parrott, Gwyn eu Byd.

Mae ail nofel y cyfieithydd, sydd erbyn hyn yn byw ym Mryste, wedi’i leoli yn ei milltir sgwâr, yn Sir Benfro – a hynny yn ystod blwyddyn yr eira mawr yn 1947, pan oedd tanwydd yn brin a’r wlad yn dal i ddiodde’ o dan y dogni bwyd melltigedig.

Er nad oedd Gwen Parrott wedi ei geni bryd hynny, mae wedi ei magu ar straeon ei theulu am y cyfnod.

Ac mae ganddi hi atgofion plentyndod o eira mawr 1963 a 1965.

“Plentyn bach oeddwn i’r adeg honno, yn byw ym Mwlch-y-groes, Sir Benfro,” cofia Gwen Parrott, sy’n byw ym Mryste.

“Roedd troedfeddi o eira ym mhobman – a bu’n rhaid i ffermwyr dorri llwybr drwyddo gyda chart a cheffyl yn union fel yn y nofel.

“Dw i’n cofio’r lluwchiau’n dda iawn – ac mae lluniau ohona’ i a’r ddau hen gwrcyn yn sefyll yn fuddugoliaethus ar ben lluwch a Mam ar y gwaelod gyda golwg bryderus.”

O ran yr eira mawr yn 1947, mae Gwen Parrott yn cofio ei mam yn sôn am ei phrofiadau, lle bu bron iddi farw un noson mewn storom enbyd a gorfod cerdde adref rhai milltiroedd ar hyd lonydd culion y wlad ger Llangloffan, Sir Benfro.

Yn Gwyn eu Byd daw athrawes ifanc, Dela Arthur, o hyd i ddau gorff mewn gwely dwbwl mewn hen ffermdy yn Nant-yr-eithin, yng nghanol storom eira mawr.

Mae ei darganfyddiad arswydus y noson honno’n cychwyn cyfres o ddigwyddiadau sy’n ei rhwygo rhwng eisiau gwybod y gwir, ac amddiffyn ei hunan rhag cael ei drwgdybio.

Adwaith i alltudiaeth

Er iddi fyw oddi cartre’ ers chwarter canrif a mwy, mae Gwen Parrott yn gweld eisiau Sir Benfro o hyd.

“Bydda’ i’n mynd yn ôl i Abergwaun, wrth reswm, gan fod Mam yn dal i fyw yno, ac weithiau, yn yr haf, byddwn ni’n gyrru o gwmpas ardal fy magwraeth,” meddai.

Mae ei gŵr hi’n feddyg teulu yn un o rannau mwyaf difreintiedig ym Mryste.

“Dw i’n credu’n gydwybodol petawn i wedi aros yng Nghymru, ni fyddwn wedi dechrau ysgrifennu yn y Gymraeg, nac ychwaith mynd yn gyfieithydd. Adwaith i alltudiaeth, efallai?

“Mae yna lawer iawn i’w ddweud dros fod yn allanolyn, o safbwynt creadigol, ac mae Bryste’n ddinas hawdd i fyw ynddi.”

*Gwyn eu Byd, Gwasg Gomer, £7.99

Gweddill y stori yn Golwg, Ebrill 15