Mae heddiw yn ddiwrnod mawr i ddwy o ddinasoedd Cymru gyda ‘Penwythnos Mawr Radio un’ yn cael ei gynnal yn ystad y Faenol, Bangor ar un llaw, a chlwb pêl-droed Caerdydd yn cystadlu yn Wembley am le yn Uwch Gynghrair Lloegr ar y llall.

Bydd Blog Golwg360 yn dilyn hynt a helynt rhai o’m darllenwyr sy’n mynd i’r ddau ddigwyddiad enfawr.  Byddwn yn cyhoeddi blog byw yn ystod y dydd yn dilyn Carwyn Dafydd a’i ffrindiau o Fangor yn ogystal a chriw o dîm pêl-droed y Gym-Gym ar eu taith i Wembley.

7.31pm- Bangor- Dizze Rascal… Blêr!

7.01pm Bangor- Bechod bod Alicia Keys ddim wedi canu fersiwn ‘North Wales’ yn lle ‘New York’!

6.34pm Bangor-  Gwylio Alicia Keys- mae hi’n wych.

6.12pm- Bangor- Yn y babell ‘In New Music We Trust’- Ellie Goulding yn wych.  Edrych ’mlaen i weld Alicia Keys nesa yn y babell fawr!

5.39pm- Bangor- Yn y mosh i Lostprohets! Gwyllt!

5.32- Bangor- Gwylio’r Lostprophets yn y babell fawr- chwyslyd!

5.01pm- Bangor- Gwylio Cheryl Cole yn perfformio- Un gair- ‘Stunning’.

4.59pm- Llundain- Bois y Gym-Gym yn siomedig iawn gyda’r canlyniad.  Ceisio dal y trên cyntaf  ’nôl i Gaerdydd.

4.51pm- Llundain- Cefnogwyr Caerdydd yn llifo allan o Wembley.  Beth nesaf i Gaerdydd? Bydd Dave Jones yn parhau yn rheolwr? Ble bydd rhai o chwaraewyr allweddol Caerdydd yn chwarae’r tymor nesaf? Caerdydd wedi colli cyfle gwych yn Wembley heddiw.

4.50pm Llundain- Chwiban olaf. Blackpool yn ennill 3-2.  Blackpool bydd yn chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor nesaf.

4.48pm- Llundain- Dau funud i fynd.

4.46pm- Bydd ’na bedair munud o amser ychwanegol.

4.45pm- Llundain- Cic gornel i Blackpool. Caerdydd yn methu adennill meddiant.

4.42pm Llundain- Cic rydd i Blackpool. Caerdydd yn clirio.

4.37pm- Llundain- Deg munud yn weddill. Mae’n rhaid i Gaerdydd dechrau gamblo a cynyddu’r pwysau ar Blackpool.

4.32pm Llundain- Golwr Blackpool, Gilkes bron a tharo’r bêl mewn i gefn rhwyd ei hun.  Caerdydd yn pwyso.

4.30pm- Llundain- Ergyd arall i Gaerdydd- McNaughton yn cael ei eilyddio oherwyddd anaf.  Gerrard ’mlaen yn eil le.

4.28pm- Llundain- Crainey yn blocio Chopra rhag mynd am y bêl- ond dim cic rydd!

4.23pm- Llundain- McCormack yn tanio’r bêl ond mae ymhell o gôl Blackpool.

4.21pm Llundain- Stephen McPhail wed’i anafu ac yn derbyn triniaeth ar y cae.  Gobeithio bydd McPhail yn dychwelyd i’r cae yn fuan.

4.19pm Llundain- Chwarae siomedig gan Hudson. Penio’r bêl allan am gic gornel di-angen. Amddiffyn Caerdydd wedi gadael Dave Jones lawr hyd yn hyn.

4.17pm Llundain- Ormerod yn gadael y cae. Stephen Dobbie, sydd ar fenthyg o Abertawe, yn dod ’mlaen yn ei le.

4.16pm- LLundain- Gwaith da gan Chopra i ennill cic gornel. Ledley bron a sgorio o’r cic gornel.

4.14pm- Llundain- Chopra yn taro’r trawst unwaith eto!  Caerdydd yn dechrau pwyso ychydig ar Blackpool.

4.11pm- Llundain- Whittingham a Burke yn cyfnewid esgyll.   Gobeithio bydd Burke yn gallu dylanwadu mwy ar y gêm.

4.09pm- Llundain- Taylor-Fletcher wedi’i anafu ac yn cael ei eilyddio- Ben Burgess yn cymryd ei le.

4.05pm- Llundain- Etuhu yn gwastraffu safle da i groesi at Chopra yn y cwrt cosbi.  Mae Caerdydd yn gweld eisiau Bothroyd.

4.04pm- Llundain- Ail hanner wedi cychwyn.  McNaughton i ffwrdd o’r cae i gael triniaeth am anaf.

3.50pm- Bangor- Mewn yn y safle.  Mae’n chwilboeth ac yn orlawn- gret!

3.47pm- Llundain- Blake yn canfod cefn y rhwyd i Gaerdydd.  Ond y llumanwr yn penderfynu ei fod yn camsefyll.  Hanner amser.

3.45pm- Llundain- Blackpool yn mynd ar y blaen. Ormerod yn sgorio ar ôl amddiffyn siomedig iawn gan Gaerdydd. 3-2.

3.40pm- Llundain-  Blackpool yn unioni’r sgôr unwaith eto. Marshall yn methu’r bêl o gic gornel. Taylor-Fletcher yn penio’r bêl mewn igefn y rhwyd. 2-2

3.37pm- Llundain- Gôl!!! Joe Ledley yn sgorio!! Caerdydd ’nôl ar y blaen! Pas wych gan Whittingham mewn i’r cwrt cosbi at Ledley a’r Cymro’n gorffen yn dda. 2-1.

3.35pm- Llundain- Cic gornel i Gaerdydd. Blackpool yn clirio’r bêl.

3.34pm Llundain- Cic gornel cyntaf Blackpool o’r gêm.  Ond Caerdydd yn ennill meddiant ac yn cyhcywn ymosodiad.

3.32pm Llundain- Y gêm yn dechrau tawelu ar ôl hanner awr agoriadol cyffrous.

3.28pm Llundain- Chopra yn cael cyfle da oddi ar  groesiad Whittingham.  Ond methodd yr ymosodwr daro’r bêl yn iawn.

3.27pm- Llundain- Cic gornel i Gaerdydd. Whittingham yn mynd am ergyd, ond dyw e’ ddim yn bygwth y gôl.

3.24pm- Llundain- Blackpool yn pwys0 ac yn pasio’r bêl yn dda.  Ymosodiad Blackpool yn dod i ben ar ôl croesiad siomedig gan Crainey.

3.22pm Llundain- Charlie Adam yn ergydio o bell.  Ond mae digon pell o gôl Caerdydd.

3.20pm- Campbell yn methu cyfle i Blackpool.

3-14pm- Llundain- Ergyd i Gaerdydd- Jay Bothroyd wedi’i anafu ac yn cael ei eilyddio- Kelvin Etuhu yn dod ’mlaen yn ei le.

3.12pm- Llundain- Gôl i Blackpool. Capten Blackpool, Charlie Adam yn sgorio o gic rydd ardderchog. 1-1

3.08pm- Llundain- Gôl i Gaerdydd!! Michael Chopra yn sgorio! 1-0 i’r Adar Glas. “What’s that coming over the hill, its Michael Chopra, Its Michael Chopra!”

3.06pm- Llundain- Blackpool yn targedu amddiffyn araf Caerdydd gyda phasio hir ’mlaen at Campbell.

3.04pm- Chopra yn taro’r trawst o groesiad Whittingham.

3.03pm- Llundain- Blackpool yn mwynhau’r gorau o’r meddiant cynnar.

3.00pm- Llundain- Caerdydd i gychwyn y gêm. Mae’r awyrgylch yn drydanol yn Wembley.

2.54pm- Llundain- Chwaraewyr Caerdydd a Blackpool yn dod allan i’r cae.  Bois y Gym-Gym yn credu bydd Caerdydd yn ennill 2-0!

2.39pm- Llundain-  Yn y stadiwm.  Anhygoel, ond dim cweit mor dda a Stadiwm y Mileniwm!

2.30pm- Bangor- Ar y ffordd i’r faenol.  Gweld y babell fawr a clywed y swn.  Gobeithio cyrraedd erbyn Chipmunk a Hadouken.

2.08pm- Llundain- Wedi dod bant o’r tiwb ac yn gweld Wembley.  Mae’r awyrgylch yn hollol wych rhwng y cymysgedd o las ac oren.

2.05pm Llundain- Newyddion y timau- Tîm Caerdydd- Marshall, McNaughton, Hudson, Blake, Kennedy, Burke, McPhail, Ledley, Whittingham, Bothroyd, Chopra.

Tîm Blackpool- Gilkes, Coleman, Evatt, Baptiste, Crainey, Vaughan, Southern, Adam, Campbell, Taylor-Fletcher, Ormerod.

1.59pm Llundain- Ar y tiwb efo cefnogwyr Blackpool- pawb yn canu.

1.09pm Llundain- Wedi cyrraedd Llundain ac yn cael cwpl o beints yn The Globe ar Stryd Marylebone.  Cannoedd o Bluebirrds tu allan yn canu a saintio.