Ifan Morgan Jones sy’n edrych ar gynllun llywodraeth glymblaid San Steffan i gynnal dau etholiad ar yr un diwrnod yn 2015…
Does dim rhyfedd bod Plaid Cymru yn gwrthwynebu’r syniad o gynnal Etholiad Cyffredinol ac Etholiad Cynulliad 2015 ar yr un diwrnod. Fe fyddai’n drychineb iddyn nhw.
Prif gŵyn Plaid Cymru ar ôl ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol eleni oedd bod yna “ganfyddiad” eu bod nhw’n amherthnasol yn San Steffan.
Yn anffodus iddyn nhw, nid canfyddiad yw hwnnw yn unig. Maen nhw, i raddau helaeth, yn amherthnasol yn San Steffan.
Eu prif ddadl o blaid pleidleisio drostyn nhw eleni oedd y byddai’n ‘bosib’ y gallen nhw ddylanwadu ar bethau pe bai yna Senedd Grog.
Siawns bach oedd yna o hynny ac fel y trodd pethau allan doedd gyda nhw ddim dylanwad o gwbl. Wfftiodd Llafur y cynnig i glymbleidio gyda nhw yn syth.
Yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf, yn 2015, bydd unrhyw ddadl y gallen nhw effeithio ar bethau yn dal hyd yn oed yn llai o ddŵr.
Y Cynulliad ydi maes y gad Plaid Cymru a dyna le y bydden nhw’n ennill a cholli eu brwydrau. Yr oll allen nhw ei wneud yn San Steffan yw gofyn cwestiynau anodd.
Mae yna hyd yn oed ddadl efallai dros dynnu’n ôl o etholiadau San Steffan yn gyfan gwbl, neu ganolbwyntio ar gadw eu cadarnleoedd yn Arfon, Sir Feirionnydd a Dwyrain Caerfyrddin yn unig.
Dyw’r Etholiad Cyffredinol yn ddim byd ond PR drwg i Blaid Cymru erbyn hyn. Ac fe fyddai peidio cystadlu yn gadael iddyn nhw ganolbwyntio eu hymdrechion a’u harian ar y Cynulliad.
Yn etholiadau’r Cynulliad mae Plaid Cymru yn ffynnu am eu bod nhw’n cael eu gweld fel plaid berthnasol allai wneud gwahaniaeth go iawn i’r ffordd mae Cymru’n cael ei redeg.
Ond y peth olaf mae’r blaid ei eisiau ydi cyd-destun Prydeinig i etholiad y Cynulliad.
Mae yna beryg o hynny yn barod y flwyddyn nesaf. Bydd y Blaid Lafur yn awyddus i droi etholiad y Cynulliad yn refferendwm ar y llywodraeth yn San Steffan a rhoi trwyn gwaed i’r Torïaid.
Os ydi toriadau’r Torïaid mor boenus â’r disgwyl fe allai pleidleiswyr Cymru dyrru’n ôl ar y Blaid Lafur yn eu miloedd a mynd a rhai o seddi Plaid Cymru gyda nhw.
Dyna un rheswm pam bod David Cameron wedi cynnig oedi’r toriadau yng Nghymru tan y flwyddyn ariannol nesaf – hynny yw, tan ar ôl Etholiad y Cynulliad.
Pe bai etholiad y Cynulliad a’r Etholiad Cyffredinol yn cael eu cynnal ar yr un diwrnod yn 2015 fe fyddai pethau’n waeth byth i Blaid Cymru.
Fydden nhw ddim yn cael eu clywed dros glebran torfol y tair plaid fawr ac fe fyddai pobol yn pleidleisio dros aelodau cynulliad ar sail rhinweddau’r pleidiau yn San Steffan.
Y canlyniad fyddai colli tir sylweddol i Blaid Cymru yn y Cynulliad ac efallai colli eu gafael ar awenau pŵer.