Mae’r athrawes gelf sydd ar brawf am anafu disgybl gyda bonyn glud wedi honni bod disgyblion yn ymosod arni’n aml.
Mae Lynda May, 54 oed, o Gastell-nedd yn gwadu’r cyhuddiad ei bod hi wedi achosi niwed i fys bawd disgybl gyda bonyn glud.
Dywedodd yr athrawes wrth Lys y Goron Abertawe ei bod hi wedi cael ei chnoi, cicio, taro a gwthio gan ddisgyblion a oedd hefyd yn rhegii ati yn ddyddiol yn yr ysgol.
Mewn un digwyddiad yn 2007, fe ddioddefodd Lynda May gleisiau sylweddol i’w braich ar ôl i ferch ei chnoi’n galed.
Fe welodd y rheithgor luniau o’r anaf i ddangos maint y cleisio ar ôl yr ymosodiad.
Llefodd yr athrawes wrth iddi ddisgrifio’r digwyddiadau a arweiniodd at anaf y disgybl.
‘Rhwystredig’
Ar y diwrnod dan sylw roedd Lynda May yn cynnal gwers lle’r oedd disgyblion i fod i osod patrymau ar ddarn mawr o bapur gyda glud.
Ond roedd y bachgen a gafodd ei anafu wedi mynd yn rhwystredig gyda’r dasg, ac fe darodd y bonyn glud ar y bwrdd gan daro llaw’r athrawes.
Fe gymerodd Lynda May y bonyn glud a’i daro lawr ar y bwrdd drosodd a throsodd tra bod y disgybl yn symud ei ddwylo i osgoi cael ei daro.
Cafodd y disgybl ei gymryd i’r ysbyty gydag anafiadau arwynebol i ewin ei fys bawd. Ni chafodd ei gadw yn yr ysbyty.
Fe ddywedodd yr erlynydd Patrick Griffiths wrth Lys y Goron Abertawe ddoe bod y bachgen gafodd ei anafu yn dueddol o ymddwyn yn afreolus.
“Pan mae’n ymddwyn yn afreolus, mae’n dueddol o daro ei ddyrnau lawr ar y bwrdd o’i flaen,” meddai Patrick Griffiths.
Mae Lynda May yn cael ei chyhuddo o golli ei thymer gyda’r disgybl a tharo’r bonyn glud lawr ar fys bawd y bachgen, ond mae’r athrawes wedi gwadu’r awgrym hynny yn y llys
heddiw.
Dywedodd Lynda May iddi daro’r bonyn glud ar y bwrdd i ddangos sut i beidio ymddwyn.