Mae Heddlu de Cymru wedi dod o hyd i blanhigion canabis mewn tŷ yn Nhonypandy.
Fe gafodd yr heddlu warant i chwilio’r tŷ yn Hendre Gwilym, Penygraig ddydd Gwener Mai 14 lle daethpwyd o hyd i lawer o blanhigion mewn cwpwrdd lawr grisiau.
Fe gafodd dyn 20 oed ei arestio’n ddiweddarach yn y dydd dan amheuaeth o drin canabis ac mae wedi cyfaddef fod y planhigion ar gyfer defnydd personol.
“Mae Heddlu De Cymru wedi ymrwymo i fynd i’r afael â chyffuriau ac fe fydd unrhyw wybodaeth gan aelodau o’r cyhoedd yn cael ei werthuso ac yna, os yn briodol, byddwn yn gweithredu arno,” meddai Heddlu De Cymru.
Fe ddylai unrhyw un â gwybodaeth am ddelio, gwerthu neu gynhyrchu cyffuriau neu sydd â gwybodaeth am adeilad sy’n cael ei ddefnyddio i dyfu canabis gysylltu gyda Heddlu De Cymru ar 101 neu’n ddienw gyda Taclo’r Tacle’ ar 0800 555 111.