Mae teulu plentyn awtistig iawn honnir iddo gael ei lofruddio gan ei fam wedi talu teyrnged iddo heddiw gan ei alw’n “hogyn hyfryd, prydferth, a hapus”.
Daethpwyd o hyd i gorff Glen Freaney, 11 oed, yn Gwesty Sky Plaza ger Maes Awyr Caerdydd dydd Sadwrn.
Ymddangosodd ei fam Yvonee Freaney, 48 oed, o flaen llys heddiw wedi’i chyhuddo o’i lofruddiaeth.
“Mea ein teulu ni’n falch iawn o Glen a’i lwyddiannau, er gwaethaf ei gyflwr,” meddai ei deulu.
“ Dyw hi ddim yn bosib gorbrisio faint oedden nhw’n caru Glen. Fe wnaeth o ein cyffwrdd ni i gyd yn ystod ei amser o gyda ni. R’yn ni wedi torri ein calonnau.”
Mae’r teulu wedi gofyn am breifatrwydd ac amser i ddod i dermau gyda’u colled.
Ymddangosodd Yvonne Heaney o flaen Llys y Goron Caerdydd yn gwisgo crys T du a rhwymau gwyn ar ei harddyrnau.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod nhw wedi eu galw i’r gwesty ble’r oedd Glen a’i fam yn byw ddydd Sadwrn gan ffrindiau a theulu oedd yn pryderu am iechyd y bachgen.
Roedd arwydd ‘Do not disturb’ ar ddrws yr ystafell a pan wnaethon nhw agor y draws daethpwyd o hyd i’r fam a’r mab yn gorwedd ar y gwely.
Pythefnos cyn marwolaeth ei mab roedd hi wedi dweud wrth ffrind ei bod hi’n ystyried lladd ei hun, clywodd y llys.
Roedd hi wedi bod yn byw yn y gwesty ers mis Ebrill ar ôl gwahanu rhag ei gŵr.
Cadwodd Nicholas Cooke, Cofiadur Caerdydd, Heaney yng Nghlinig Caswell ym Mhen y Bont ar Ogwr. Fe fydd hi’n ymddangos o flaen y llys eto ar 14 Mehefin.