Mae fersiwn arbennig o’r gan ‘Empire State of Mind’ gan Alicia Keys wedi ei greu i hysbysebu ei pherfformiad yn Penwythnos Mawr Radio 1 yr wythnos yma.
Mae cantores sesiwn wedi recordio fersiwn amgen o’r gan ar gyfer rhaglen fore Chris Moyles fel jôc.
Mae geiriau’r gân wedi eu newid fel eu bod nhw’n cyfeirio at Ogledd Cymru yn lle Efrog Newydd.
Dyma flas o eiriau’r parodi
“Ooh North Wales…
“Ooh North Wales…
“Never been up here before, where the mountain meets the shore, and it’s all so green,
“It’s so picturesque, where the air’s so clean and fresh, and it’s like a dream,
“From west Snowdon to the Llandudno Junction or to Colwyn Bay,
“There’s so much to see, and it’s so great to be here in the month of May.”
Yna, aiff y gantores ymlaen i ganu am y golygfeydd rhwng Harlech a Phont Borth cyn mynd ati i ddweud ei bod wedi mentro yn y man i Ynys Môn.
Mae’r clip Youtube ohono wedi dennu dros 7,000 o ymwelwyr ac wedi ennyn ymateb cymysg.
Mae rhai yn beirniadu’r fersiwn gan gyfeirio at hagrwch rhai ardaloedd ynghyd â diweithdra yng ngogledd Cymru.
‘Gwych’
“Fe wnes i chwerthin gymaint wrth wrando ar y gân. Mae o’n wych i’r ardal leol,” meddai Dafydd Wyn Jones o Gaernarfon sy’n ffan brwid o Alicia Keys.
Dywedodd ei bod hi’n “dalent wych” a’i fod o wedi llwyddo i ennill tocyn i’w gweld ddydd Sadwrn ar stad y Faenol ger Bangor.
“Dyma gân sydd wedi bod yn y siartiau Prydeinig ers wythnosau. Ond mae o wedi’i newid er mwyn rhoi sylw i’r ardal leol.”
Mae’r parodi i fod yn ddoniol, ond “nid yw’n gwneud hwyl ar ben yr ardal leol” mewn ffordd negyddol, meddai Dafydd Wyn Jones. “Rydan ni rhy barod i weld bai weithiau!”
Ychwanegodd y bydd hi’n “ddiddorol gweld a fydd hi’n canu’r fersiwn Efrog Newydd neu’r fersiwn Gogledd Cymru, ddydd Sadwrn”.
“Dw i’n siŵr y caiff hi ymateb gwych gyda’r gân am ogledd Cymru,” meddai’r myfyriwr Cymraeg o Brifysgol Bangor sy’n graddio eleni.