Dylai prifysgolion Cymru gydweithio fel eu bod nhw’n gallu cystadlu gyda’r gorau yn y byd, meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones heddiw.
Dywedodd fod yna “fanteison clir” i gyfuno sefydliadau fel eu bod nhw’n gallu cynnig mwy o gyrsiau i fyfyrwyr.
Mae Prifysgol Llanbedr Pont Steffan a Coleg y Drindod, Cearfyrddin yn y broses o gyfuno. Fe fydd Prifysgol y Drindod Dewi Sant yn agor ei drysau i’r myfyrwyr cyntaf ym mis Medi.
Cododd Nick Bourne y cwestiwn wrth holi’r Prif Weinidog yn y Senedd heddiw, gan ofyn a fyddai cyfuno rhai prifysgolion yn ffordd o arbed costau yng Nghymru.
“Mae yna angen amlwg i sefydliadau addysg uwch i gydweithio gyda’u gilydd yn fwy nag y mae nhw wedi bod yn ei wneud yn hanesyddol,” meddai Carwyn Jones.
Mae maint prifysgolion Cymru o’i gymharu â gweddill Ewrop yn “eithaf bach”, meddai.
“Rydw i eisiau sicrhau bod ein prifysgolion nid yn unig yn gallu cystadlu gyda’u gilydd neu ar lefel Prydeinig, ond ar lefel Ewropeaidd a byd eang.
“Mae’n anochel os ydan ni eisiau i’n prifysgolion gystadlu ar y lefel yna y bydd rhaid iddyn nhw dyfu ac yn sicr cydweithio mwy yn y dyfodol.”
Ychwanegodd y byddai’n “fater i’r sefydliadau” pe bai mwy ohonyn nhw eisiau cyfuno yn y dyfodol.
“Ond mae manteision clir i gyfuno o ran gallu cynnig ystod eang o gyrsiau a’r angen i gystadlu gyda prifysgolion mawr ledled Ewrop”.