Mae yna adroddiadau bod cyn chwaraewr Aberystwyth, Tom Bradshaw, yn denu diddordeb rhai o glybiau Uwch Gynghrair Lloegr.

Mae’n debyg fod gan Fulham, Wolves a Birmingham ddiddordeb yn yr ymosodwr.

Fe ymunodd Bradshaw, fydd yn 18 oed ym mis Gorffennaf, gyda’r Amwythig blwyddyn yn ôl yn dilyn cyfnod gydag Aberystwyth.

Sicrhaodd Bradshaw ei le yn nhîm cyntaf Aberystwyth yn 16 oed gan ddechrau pedair gêm a sgorio dwy gôl.

Mae wedi cychwyn chwarae i dîm cyntaf Amwythig y tymor hwn gan sgorio dwy gôl yn erbyn Crewe yn ei gêm gyntaf yn ogystal â sgorio yn erbyn Morcambe ar ddechrau’r mis.

Daw teulu Tom Bradshaw o Loegr, ond mae’r chwaraewr wedi treulio’r rhan fwyaf o’i fywyd yng Nghymru, sy’n golygu ei fod o’n gymwys i gynrychioli’r wlad dan y rheolau newydd.