Bydd Abertawe yn ymddeol crys rhif 40 Besian Idrizaj ar ôl i’r chwaraewr farw dros y penwythnos.
Mae hynny’n golygu na fydd neb arall yn gwisgo’r crys rhif 40 wrth chwarae i Abertawe byth eto.
Fe ddaw’r newyddion ar ddiwrnod angladd Besian Idrizaj yn Kosovo yn agos i fan geni ei dad, sy’n wreiddiol o Albania.
Bu farw’r ymosodwr yn ei gwsg yng nghartref y teulu yn Linz, Awstria, gydag adroddiadau ei fod o wedi dioddef trawiad ar y galon.
Bydd teyrngedau yn cael eu talu i gyn chwaraewr Lerpwl a Chwaraewr y Flwyddyn Awstria 2005, gyda munud o dawelwch cyn y gêm gyfeillgar rhwng timau dan 21 Cymru ac Awstria yn Parndorf heno.
Mae Cymdeithas Bêl Droed Awstria hefyd wedi gofyn am funud o dawelwch cyn y gêm gyfeillgar rhwng prif dîm Awstria a Croatia nos yfory.
Bydd yr Elyrch yn talu teyrnged bersonol i’r chwaraewr cyn cychwyn rownd terfynol Cwpan Ieuenctid Cymru rhwng Abertawe a Wrecsam yn Stadiwm Liberty dydd Sadwrn.
Bydd caplan y clwb, Kevin Johns, yn cynnal seremoni fer cyn munud o dawelwch i gofio am y chwaraewr poblogaidd.