Ar ôl cwbwlhau cyfnod o naw mlynedd wrth y llyw, bydd yr Arglwydd Rowe-Beddoe yn rhoi’r gorau iddi fel Cadeirydd Canolfan Mileniwm Cymru.
Fe fydd Syr Emyr Jones Parry yn ei olynu fis Ionawr 2011.
“Rydw i wrth fy modd ein bod wedi llwyddo i gael rhywun o allu Emyr Jones Parry, gyda’i gysylltiadau rhyngwladol sylweddol a’i brofiad eang o gadeirio a thrafod,” meddai’r Arglwydd Rowe-Beddoe wrth gyhoeddi’r apwyntiad.
“Ers iddo ddychwelyd i Gymru mae eisoes wedi cyfrannu’n helaeth i fywyd cyhoeddus. Teithiodd dros Gymru gyfan dros gyfnod o ddwy flynedd yn ei rôl fel Cadeirydd Confensiwn Cymru Gyfan yn casglu tystiolaeth gan unigolion o bob oed. Enillodd barch gwleidyddion o bob plaid yn lleol ac yn genedlaethol,” meddai.
‘Ddim yn torri cysylltiad’
Mae’r Arglwydd Rowe-Beddoe wedi dweud “na fydd yn torri pob cysylltiad gyda’r Ganolfan”.
“Mae wedi bod yn anrhydedd o’r mwyaf cael arwain y datblygiad dros y blynyddoedd hyd heddiw,” meddai.
“Gyda Chanolfan sy’n dod â chymaint o bleser i gymaint o bobl ac sy’n fawr ei pharch ymhlith canolfannau cyffelyb ledled y byd ac ymhlith y cynhyrchwyr amlycaf, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.”
Syr Emyr Jones Parry
Yn enedigol o Sir Gar, fe gafodd Syr Emyr Jones Parry ei addysg yn Ysgol Ramadeg y Gwendraeth, Prifysgol Caerdydd a Choleg Sant Catharine, Caergrawnt.
Cyn ymddeol o’r Swyddfa Dramor yn 2007 cafodd Emyr Jones Parry yrfa fel diplomydd a bu’n gwasanaethu fel Cynrychiolydd Parhaol i NATO ym Mrwsel yn ogystal â fel Cynrychiolydd Parhaol i’r Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd.
Bu’n Gadeirydd Cyngor Diogelwch y CU am bedwar tymor ac yna cadeiriodd gyfarfodydd y Gymuned Ewropeaidd yn ystod pum tymor rhwng 1982 a 2005. Yna, fe gafodd ei benodi’n Llywydd Prifysgol Aberystwyth yn 2008 ac yn Gadeirydd Bwrdd Ymgynghorol Rhyngwladol y Brifysgol Agored.
Mae’n disgrifio ei hun fel Cymro ‘annodweddiadol’, gan nad yw’n gallu canu na chwarae unrhyw offeryn. “Ond mae hynny’n golygu mod i’n gwerthfawrogi’r celfyddydau gymaint yn fwy” dywedodd cyn dweud ei fod yn mwynhau ystod eang o’r celfyddydau.
“Mae’r Ganolfan yn un o lwyddiannau mawr y mileniwm ac yn adeilad arbennig sy’n hyrwyddo’r gorau o Gymru ar lwyfan y byd,” meddai.
“Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr i arwain a llywio’r Bwrdd a’r Tîm Gweithredol wrth weithredu Cynllun Pum Mlynedd uchelgeisiol y Ganolfan, a fydd yn atgyfnerthu ei statws yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.”